Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am y Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau

Mae gennym ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a deddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

Rydym yn cydweithio â phartneriaid proffesiynol sefydledig a ddynodwyd fel ymatebwyr categori 1 a 2 (e.e. y gwasanaethau brys, adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol eraill) a sefydliadau eraill a nodwyd yn y Ddeddf er mwyn mynd i'r afael â phob agwedd ar y polisi mewn perthynas â'r canlynol:

  • asesiad risg cymunedol
  • cynllunio ar gyfer argyfyngau
  • ymateb i argyfyngau
  • rheoli parhad busnes (gan gynnwys hyrwyddo cyngor am reoli parhad busnes i fusnesau lleol a'r sector gwirfoddol)
  • gwybodaeth i'r cyhoedd am asesiadau risg a chynlluniau
  • rhoi trefniadau mewn lle i rybuddio a rhoi gwybod i'r cyngor

Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys profi cynlluniau rheoli argyfyngau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben. Rydym yn cymryd rhan mewn ymarferion byw ac ymarferion wyneb bwrdd, ac yn eu trefnu, sy'n dilyn sefyllfaoedd posib a allai effeithio ar Abertawe, ei chymunedau a darparu gwasanaethau'r cyngor.

Rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid, gan gynnwys:

  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Y Swyddfa Dywydd
  • Y Groes Goch Brydeinig
  • cwmnïau cyfleustodau

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth galw allan brys 24 awr.

Deddfwriaeth

Er mwyn caniatáu i ni gynnal ein dyletswyddau'n unol â deddfwriaeth statudol, rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau ar waith a'u bod wedi'u profi yn yr achos bod y peth gwaethaf yn digwydd.

Isod ceir y pedwar rheoliad statudol penodol sy'n disgrifio'r dyletswyddau y mae'n rhaid i ni lynu wrthynt:

  1. Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH) (Yn agor ffenestr newydd)
  3. Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996 (Yn agor ffenestr newydd)
  4. Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i'r Cyhoedd) 2001 (REPPIR) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2021