Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolygwyr yn canmol ysgol uwchradd ofalgar, hapus a chynhwysol

Yn ôl arolygwyr Estyn, mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn gymuned ofalgar, hapus a chynhwysol gydag ethos Gymraeg glir lle mae disgyblion a staff yn ymfalchïo yn eu hysgol.

Ysgol Gyfun Gŵyr Estyn Inspection 2024

Ysgol Gyfun Gŵyr Estyn Inspection 2024

Nodwyd bod nifer o ddisgyblion, gan gynnwys y rheini ag anghenion addysgol arbennig, wedi gwneud cynnydd academaidd cryf.

Ymwelwyd â'r ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe yn ystod tymor yr hydref ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.

Mae'n datgan: "Mae'r pennaeth, uwch arweinwyr a staff yr ysgol yn rhoi blaenoriaeth amlwg i gefnogi lles ac yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o gynhwysiant, parch a chodi dyheadau.

"Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn ymddwyn yn waraidd o amgylch yr ysgol, maent yn groesawgar a chwrtais ac yn barod eu sgwrs gydag ymwelwyr. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda mewn gwersi."

Meddai'r arolygwyr, "Yn gyffredinol, mae disgyblion yn glir ynghylch at bwy i droi pan fydd angen cymorth a chefnogaeth arnynt ac maent yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gref maent yn ei derbyn.

"Mae cyfran uchel o ddisgyblion yn datblygu medrau arwain gwerthfawr, a thrwy waith y cyngor ysgol a'r gweithgorau amrywiol, maent yn codi ymwybyddiaeth eu cyfoedion o faterion pwysig fel parchu amrywiaeth, hawliau a phroblemau cymdeithasol.

"Gwna disgyblion y chweched dosbarth gyfraniad gwerthfawr i fywyd yr ysgol ac maent yn meddu ar fedrau cymdeithasol aeddfed.

"Mae'r ysgol yn cynnig cyfleoedd lu i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy'n cyfoethogi'r addysg.

"Yn y gwersi, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd priodol yn eu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth bynciol. Yn y gwersi hyn, ceir cynllunio gofalus sy'n ennyn diddordeb disgyblion ac yn cynnig her briodol iddynt."

Yn ôl yr adroddiad, "Mae'r gwersi lles corfforol, lles maeth a lles cyfannol wedi'u cynllunio'n grefftus ac yn cynnig ystod werthfawr o brofiadau dysgu pwrpasol sy'n helpu'r disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr iach, hyderus ac annibynnol." Gofynnodd yr arolygwyr i'r ysgol ysgrifennu astudiaeth achos ar gyfer gwefan Estyn ar eu gwaith yn y maes hwn fel bod modd ei rhannu fel enghraifft o arfer da.

Canmolwyd y Tîm Arwain am "weithio'n dda gyda'i gilydd ac [maent] yn gosod pwysigrwydd sylweddol ar feithrin ethos gofalgar a chynhaliol."

Meddai'r Pennaeth, Jeffrey Connick, "Rydw i'n falch iawn gyda'r gydnabyddiaeth fod Ysgol Gyfun Gŵyr yn gymuned ofalgar a hapus lle mae nifer o'n myfyrwyr yn ffynnu a byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn.

"Mae disgyblion, staff a llywodraethwyr yn haeddu llawer o glod am eu gwaith caled ac rydw i'n gobeithio eu bod nhw, a phawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol, mor falch â fi o'r adroddiad arolygu hwn."

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gyfun Gŵyr ar adroddiad arolygu cadarnhaol iawn."

 

Close Dewis iaith