Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ffordd y Brenin yn mynd yn wyrdd wrth i Abertawe arwain y ffordd ar gyfer y dyfodol

Mae lluniau trawiadol newydd gan ddrôn yn dangos sut mae un o brif ardaloedd canol dinas Abertawe wedi mynd yn wyrdd - ac mae'n arwydd o ddyfodol gwyrddach.

Kingsway Drone Image

Kingsway Drone Image

Lle'r oedd pedair lôn darmac ar un adeg, mae gan Ffordd y Brenin ac Orchard Street rodfeydd eang i gerddwyr yn awr, wedi'u bywiogi gan goed a gwyrddni arall.

Wrth i'r coed aeddfedu, bydd yr ardal yn dod hyd yn oed yn fwy gwyrdd. Mae'n ganlyniad i gynllun gwerth £12 miliwn gan Gyngor Abertawe i wella Ffordd y Brenin a strydoedd cyfagos.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn bwriadu trawsnewid Abertawe yn un o ddinasoedd gwyrddaf y DU. Mae Ffordd y Brenin yn adlewyrchu'n cynlluniau i gynyddu gorchudd gwyrdd a bioamrywiaeth o gwmpas canol y ddinas.

"Mae'n wych bod sefydliadau a busnesau eraill yn rhannu'n huchelgais am ganol dinas gwyrddach - a bod gwyrddni'n rhan o'u cynlluniau datblygu nhw hefyd.

"Gyda'i gilydd, fel rhan allweddol o'n rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn, byddant yn helpu i wneud Abertawe'n ddinas lle bydd mwy a mwy o bobl eisiau byw, gweithio a threulio amser o ansawdd ynddi."

Wrth i fwy o bobl ddechrau byw yng nghanol y ddinas a siopa mewn lleoliadau eiconig fel y farchnad, bydd eraill yn treulio amser pwrpasol mewn cyfleusterau hamdden fel ardal newydd Bae Copr, gyda'i harena a'i pharc arfordirol.

Bydd hyn yn denu ymwelwyr i annog busnesau newydd a chefnogi masnachwyr sydd yma eisoes.

Byddant yn sylwi bod mwy o wyrddni yma, gan gynnwys waliau gwyrdd mewn lleoliadau fel Bae Copr a - diolch i grŵp Coastal Housing - uwchben y Potters Wheel.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ychwanegu gwyrddni at do a theras y datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg a fydd yn cael ei adeiladu ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin.

Disgwylir i gynllun swyddfeydd "adeilad byw" gael ei adeiladu gerllaw, ynghyd â thŷ gwydr trefol arddull fferm a adeiledir dros bedwar llawr. Caiff y cynllun, a arweinir gan Hacer Developments, ei ariannu'n rhannol gan grŵp Pobl.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar gyfer Sgwâr y Castell wyrddach - a chyn bo hir bydd gan Wind Street ragor o ardaloedd wedi'u plannu, gan ei helpu i fod yn gyrchfan hamdden drwy'r dydd.

Mae gan y cyngor strategaeth isadeiledd gwyrdd, sydd wedi'i dylunio i ddod â rhagor o natur i ardal ganolog Abertawe.

Mae'r arena a 71-72 Ffordd y Brenin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ac mae pont Bae Copr yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y gwelliannau ar Ffordd y Brenin gan gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Ariennir cynlluniau Coastal ar gyfer y wal werdd uwch ben The Potters Wheel gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gyda chymorth gan y cyngor.