Disgyblion yn ymuno mewn seremoni i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost
Heddiw gwnaeth disgyblion o ysgolion yn Abertawe ymuno ag arweinwyr dinesig mewn seremoni wrth i'r ddinas nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.
Mae'n ddigwyddiad blynyddol i goffáu'r rheini sydd wedi colli eu bywydau oherwydd hil-laddiadau ar draws y byd, a thema digwyddiad eleni yw 'Bregusrwydd Rhyddid'.
Roedd yr ysgolion a oedd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yn stadiwm Swansea.com yn cynnwys Yr Olchfa, Pentrehafod, Ysgolion Uwchradd Yr Esgob Vaughan a'r Esgob Gore, yn ogystal ag Ysgol Gatholig San Joseph, ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Gwyrosydd ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan.
Ymunwyd â nhw gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, Arglwydd Faer Abertawe, Graham Thomas ac aelodau cymunedau ffydd Abertawe.
Darllenodd y Prif Arolygydd James Ratti o Heddlu De Cymru Adduned Cymru Gyfan a daeth Norma Glass, MBE, un o arweinwyr cymuned Iddewig Abertawe, â'r digwyddiad i ben.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Diwrnod Coffáu'r Holocost yw'r diwrnod rhyngwladol i goffáu'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost a digwyddiadau eraill o hil-laddiad sy'n bwrw cysgod tywyll ar ddynoliaeth."