Darparwr Tai yn llofnodi adduned Dinas Hawliau Dynol
Darparwr tai cymdeithasol mwyaf Cymru yw'r sefydliad allweddol diweddaraf i lofnodi'r adduned Dinas Hawliau Dynol.
Mae Pobl Group, sy'n cyflogi dros 2,500 o bobl ar draws Cymru, hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain, sy'n cael eu cynnig i sefydliadau a busnesau ar draws Abertawe.
Ym mis Rhagfyr datganwyd Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru a nawr mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud hawliau dynol yn rhan annatod o arferion pob dydd, a chynyddu ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith pobl Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, Elliot King,"Rwyf wrth fy modd bod ein partneriaid yn Pobl yn ymuno â ni ar y daith hon a'u bod wedi llofnodi'r adduned Dinas Hawliau Dynol.
Meddai Nicola Jones, Arweinydd Strategol dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad Pobl Group,"Yn Pobl rydym am fod yn gynhwysol wrth reddf, gan gymryd pob cyfle i hyrwyddo cydraddoldeb, croesawu amrywiaeth a herio gwahaniaethu."