Arweiniad i helpu sefydliadau i hyrwyddo hawliau dynol
Mae arweiniad newydd bellach ar gael i sefydliadau yn Abertawe sydd am gael rhagor o wybodaeth am hawliau dynol a sut y gallent eu rhoi ar waith a'u hyrwyddo yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Datblygwyd yr arweiniad hwn gan yr Athro Simon Hoffman a Dr Rhian Croke ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o flwyddyn o gamau gweithredu yn dilyn datgan Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.
Mae sefydliadau allweddol yn Abertawe, gan gynnwys y cyngor, wedi bod yn cydweithio i wreiddio hawliau dynol yn eu harferion gwaith pob dydd a chynyddu ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith pobl yn Abertawe.
Mae nifer o unigolion, busnesau a sefydliadau eraill wedi ymuno â nhw i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer hawliau dynol.
Yn ogystal â'r arweiniad, mae cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain ar gael i sefydliadau ledled Abertawe.
Meddai Cynghorydd Hyrwyddwr Cyngor Abertawe dros Hawliau Dynol, Louise Gibbard, "Fel rhan o'n datganiad o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol ym mis Rhagfyr, lansiwyd Arweiniad Hawliau Dynol ar gyfer sefydliadau.
"Heddiw, hoffwn annog pobl, os ydych yn gweithio mewn sefydliad yn Abertawe, i gael cip arno a cheisio ymrwymo i addewid y Ddinas Hawliau Dynol i gynnwys yr egwyddorion hynny yn y gwaith rydych chi'n ei wneud fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i greu Dinas Hawliau Dynol lwyddiannus yma yn Abertawe."