Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn rhoi 'blaenoriaeth uchel' ar les disgyblion

Yn ôl arolygwyr, mae disgyblion mewn ysgol gynradd yn Abertawe sy'n rhoi blaenoriaeth uchel ar eu lles yn gwneud cynnydd da mewn nifer o feysydd gan gynnwys darllen, rhifedd a sgiliau digidol.

Hafod School Estyn Report

Hafod School Estyn Report

Ymwelodd dîm o Estyn ag Ysgol Gynradd yr Hafod yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad. Dywedwyd bod yr ysgol yn groesawgar ac yn gynhwysol ac mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel ac maent yn ymddwyn yn dda yn yr ystafell ddosbarth.  

Dywed yr adroddiad, "Maent yn gwneud cynnydd da o'u mannau cychwyn, gan gynnwys y rheini sy'n dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) a'r rheini sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  

"Mae'r ysgol yn datblygu cwricwlwm diddorol sy'n darparu ehangder a chwmpas effeithiol o brofiadau dysgu ar draws y rhan fwyaf o'r meysydd dysgu.  

"Mae staff yn darparu nifer o weithgareddau lle mae disgyblion iau'n dysgu trwy brofiadau uniongyrchol ymarferol.  

"Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i datblygu'n dda." 

Dywedai bod y Pennaeth, Timm Dadds, yn darparu arweinyddiaeth gref a thosturiol ac mae wedi sefydlu diwylliant cynhwysol lle mae teuluoedd a disgyblion yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn.  

Croesawodd Mr Dadds yr adroddiad a dywedodd y dylai staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr fod yn falch iawn o'r hyn y mae cymuned yr ysgol wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf.  

Close Dewis iaith