Prosiect sy'n seiliedig ar natur yn rhoi hwb i iechyd meddwl pobl
Mae sefydliad yn Abertawe sy'n cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol wedi cael hwb ariannol.
Mae Happy Headwork - tîm o arbenigwyr mewn seicoleg, therapi a hyfforddiant - wedi sicrhau cyllid gan Gyngor Abertawe fel rhan o brosiect angori gwledig sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r cyllid yn golygu y bydd Happy Headwork yn gallu cynnal mwy o sesiynau fel rhan o'u rhaglen 'Head Outdoors!', sy'n rhoi cyfle i gyfranogwyr fynd yn agosach at fyd natur drwy gymryd rhan mewn cyrsiau chwe wythnos yng Nghoed Cwm Penllergare.
Bydd mwy na 30 o bobl leol sydd naill ai'n ddi-waith neu'n dros 50 oed yn elwa.
Fel rhan o'r rhaglen les, bydd cyfranogwyr yn dysgu seicoleg sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwella'u hunandosturi a'u hunanhyder; ynghyd â sgiliau cadarn ar gyfer profi lles ym myd natur a chyda natur, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cadw dyddiadur natur, crefft gwersylla a chelf a chrefft yn seiliedig ar natur.
Yn ogystal â helpu i hybu eu hyder, byddant hefyd yn dysgu sgiliau ymarferol a allai arwain at gyfleoedd gwirfoddoli sy'n seiliedig ar natur yn y dyfodol.
Meddai Stephanie Hill, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Happy Headwork, "Rydym yn frwd iawn dros gefnogi cynifer o bobl â phosib gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol oherwydd bydd hynny'n rhoi'r hyder iddyn nhw ffynnu mewn bywyd, ac mae pawb yn haeddu hynny.
"Mae llawer o ymchwil wedi dangos sut mae cysylltu â natur o fudd i iechyd meddwl pobl, ac mae'r rhaglen hon yn seiliedig ar ddysgu o raglenni tebyg rydym wedi'u cynnal yn y gorffennol."
Mae'r holl geisiadau i'r prosiect angori gwledig wedi cael eu hasesu gan grŵp cynghori gwledig.
Mae'r Cyng. Andrew Stevens yn aelod o'r grŵp ac yn Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd.
Meddai, "Mae angen canmol unrhyw beth y gellir ei wneud i wella iechyd meddwl a lles emosiynol pobl, felly rydym yn falch iawn o gefnogi Happy Headwork gyda chyllid grant."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig mae ein cymunedau gwledig i Abertawe.
"Dyna pam rydym wedi sicrhau taw prosiect angori gwledig oedd yn un o'r themâu allweddol o'n dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU."