Sut i hawlio cerbyd a atafaelwyd
Os yw eich cerbyd wedi cael ei waredu fel cerbyd sydd wedi'i adael a'i atafaelu gan y cyngor, gallwch ei hawlio'n ôl gennym ni.
I hawlio'ch cerbyd yn ôl, dylech:
- Ffonio'n llinell gymorth Cerbydau sydd wedi'u Gadael ar 01792 636819 i gadarnhau eich bod am hawlio'ch cerbyd a'ch bod yn gallu dangos prawf o'r ddogfennaeth berthnasol sy'n cadarnhau mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd.
- Cadarnhau eich perchnogaeth yn ysgrifenedig i'r Tîm Cerbydau sydd wedi'u Gadael yn y cyfeiriad isod.
- Trefnu i gasglu'r cerbyd yn uniongyrchol gyda chontractwr hawlio cerbydau'r cyngor - Krislyn Motors ar hyn o bryd - ar 01792 893388.
- Mae'n rhaid darparu'r dogfennau prawf uchod er mwyn rhyddhau'r cerbyd neu fel arall, gellir llofnodi ffurflen safonol sy'n nodi mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd. (Os nad yw'r cerbyd yn addas i'r ffordd neu os nad oes ganddo dystysgrif MOT ac yswiriant, y perchennog fydd yn gyfrifol am drefnu cludo'r cerbyd.)
- Hefyd, mae'n rhaid talu ffioedd statudol o £105 a £12 y dydd am gostau storio cyn rhyddhau'r cerbyd.
Sut gallaf atal fy ngherbyd rhag cael ei atafaelu yn y dyfodol?
- Os ydych am barcio eich cerbyd ar y ffordd fawr mae'n rhaid i chi ddangos disg treth dilys hyd yn oed os nad ydych yn defnyddio'r cerbyd.
- Trefnu i storio'ch cerbyd oddi ar y ffordd fawr. Mae'n rhaid cefnogi hyn trwy gwblhau'r datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) a'i ddychwelyd i'r DVLA. (Gweler eich ffurflenni Atgoffa am Dreth Cerbyd). Bydd y DVLA yn anfon hysbysiad HOS atoch.
Addaswyd diwethaf ar 17 Mehefin 2021