Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau'r stryd fawr ar draws y ddinas yn elwa o gymorth ariannol

Mae cyllid gwerth bron £330,000 yn helpu i roi hwb i fusnesau'r stryd fawr ar draws Abertawe.

XP Gaming Bar

XP Gaming Bar

Mae busnesau yng nghanol y ddinas, yn Nhre-Gŵyr, yn Winsh-wen ac yn Nhreforys ymhlith y rheini sy'n elwa o grantiau oddi wrth Gyngor Abertawe trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae cyllid sydd wedi bod ar gael i 31 o fusnesau'r stryd fawr yn cynnwys grantiau cyn dechrau, grantiau datblygu gwefannau, grantiau twf a grantiau lleihau carbon.

Mae'r busnesau sy'n elwa o grantiau twf yn cynnwys Grandad Needs His Medicine - siop frechdanau sydd wedi'i leoli ar Stryd Rhydychen; XP Gaming Bar ar Castle Street; No 18 Vegan Café Bar ar Bryn-y-môr Road; caffi Brew and Bloom yng Nghanolfan Gymunedol Forge Fach yng Nghlydach, a Malu Coffee and Espresso Bar ar Woodfield Street yn Nhreforys.

Dyfarnwyd grantiau datblygu gwefannau i fusnesau, gan gynnwys Bowla - a Bowl with a Roll, a Dewkes, sef siop anifeiliaid anwes yn y Mwmbwls.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae busnesau ar draws Abertawe'n gwneud cymaint i greu swyddi i bobl leol wrth iddynt ychwanegu cymeriad a lliw at ein strydoedd mawr.

"Maent yn ganolbwynt i'r economi leol, felly mae'n bwysig bod y cyngor yn gwneud popeth y gall ei wneud i'w cefnogi.

"Rydym yn falch iawn o roi grantiau i gynifer o fusnesau'r stryd fawr trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i wella economïau cymunedau ar draws Abertawe trwy gefnogi cynifer o fusnesau â phosib."

Mae'r busnesau sydd wedi derbyn grantiau lleihau carbon yn cynnwys Colwyn Fish Bar yn Winsh-wen a Cheers Wine Merchants yn West Cross.

Dyfarnwyd grantiau twf i fusnesau gan gynnwys Mumbles Dental House ym Mhontarddulais, Frozziyo ar College Street yng nghanol y ddinas a Yummy Bears ar Sterry Road yn Nhre-Gŵyr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Gorffenaf 2024