Y buddsoddiad £100m sy'n trawsnewid Y Stryd Fawr
Mae unedau masnachol newydd, defnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor ac adfer theatr hanesyddol ymysg y cynlluniau a fydd yn rhoi bywyd newydd i Stryd Fawr Abertawe.
Mae buddsoddiad gwerth dros £100m yn parhau i drawsnewid y strydoedd er budd busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas.
Bydd cynlluniau sydd naill ai'n mynd rhagddynt neu yn yr arfaeth yn dilyn cwblhau prosiectau mawr eraill ar Y Stryd Fawr yn y blynyddoedd diweddar gan gynnwys cam cyntaf datblygiad Pentref Trefol Coastal Housing a gwelliannau yng ngorsaf drenau Abertawe a'r cyffiniau. Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi agor lleoliad Oriel Science ar gornel Castle Street.
Mae Theatr y Palace ar y Stryd Fawr yn cael ei adfer dan arweiniad Cyngor Abertawe mewn modd sensitif a'i drawsnewid yn fan gwaith a rennir. Tramshed Tec, cwmni o Gymru fydd yn ei reoli, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddod i ben erbyn diwedd 2024.
Mewn man arall ar Y Stryd Fawr, mae Coastal Housing wedi prynu hen siop H Phillips Electrical yn ddiweddar, adeilad sydd wedi bod yn wag ers dros ddegawd. Bydd y pryniant hwn yn helpu Coastal i ehangu cwmpas a maint ei ddatblygiad Pentref Trefol, sydd eisoes yn cynnwys ystod o swyddfeydd, a busnesau manwerthu a lletygarwch.
Ymysg ei gynlluniau mae adeilad masnachol deulawr gydag unedau tebyg i gynwysyddion llong a datblygiad tai chwe llawr ar gornel Kings Lane, sy'n cysylltu â'r Stryd Fawr a'r Strand.
Mae cynlluniau mawr yn yr arfaeth hefyd i gysylltu'r Strand yn well â'r Stryd Fawr, diolch i'r ffaith bod prosiect Cyngor Abertawe yn cael ei ariannu'n rhannol gan raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae Coastal Housing yn bwriadu adnewyddu hen Dafarn y King's Arms ar Y Stryd Fawr i'w ddefnyddio eto at ddiben masnachol.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r Stryd Fawr yn borth allweddol i mewn ac allan o ganol y ddinas, a dyma pam y mae'r cyngor a'n partneriaid yn gwneud popeth y gallwn i wella'i golwg a'i naws.
"Bwriedir gwneud llawer mwy o waith yn y dyfodol hefyd i barhau i wella'r ardal er budd pobl leol, busnesau lleol ac ymwelwyr â'r ddinas fel rhan o raglen gyffredinol gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas.
"Nid ydym yn berchen ar hen adeilad Argos nac adeiladau sinema Elysium ond rydym yn gwneud popeth y gallwn i weithio gyda'r perchnogion i helpu i sicrhau y gellir defnyddio'r adeiladau hyn unwaith yn rhagor.
Mae nifer o ddatblygiadau i fyfyrwyr wedi agor hefyd yn Y Stryd Fawr dros y blynyddoedd diweddar.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae camdybiaeth mai'r Cyngor sy'n adeiladu datblygiadau i fyfyrwyr. Nid yw hyn yn wir, ond mae'r datblygiadau hyn yn golygu bod llawer mwy o bobl yn byw yng nghanol y ddinas, sy'n bwysig gan eu bod yn gwario'u harian ym musnesau canol y ddinas. Mae hyn yn diogelu swyddi pobl leol a bydd yn helpu i greu mwy o swyddi yn y dyfodol."