Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gael ar gyfer ailddefnyddio strwythurau hanesyddol

Gwahoddir mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer cyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddiben ailddefnyddio strwythurau hanesyddol rhestredig yn Abertawe.

Swansea Castle historic structure

Swansea Castle historic structure

Bydd grantiau gwerth rhwng £5,000 a £450,000 ar gael ar gyfer naill ai astudiaethau dichonoldeb neu brosiectau sy'n rhan o'r prosiect angori trawsnewid lleoedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol yn gymwys ar gyfer 100% o'r costau, gydag ymgeiswyr y sector preifat yn gymwys am hyd at 70%.

I fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y gronfa, mae'n rhaid i ddefnydd terfynol yr adeilad gynnwys arwynebedd llawr masnachol. Ni fydd cynigion ar gyfer cynlluniau preswyl yn unig neu gynlluniau sy'n creu llety i fyfyrwyr yn cael eu hystyried.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gennym hanes profedig balch o roi bywyd newydd i adeiladau hanesyddol Abertawe, mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys Penderyn yn agor distyllfa a chanolfan ymwelwyr yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa yn ddiweddar, yn ogystal â gwaith parhaus i warchod Theatr y Palace.

"Mae nifer o strwythurau hanesyddol eraill ar draws Abertawe y gellid eu cadw a'u hailddefnyddio at ddibenion buddiol, felly rydym nawr yn annog mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer cyllid gan grwpiau cymunedol, ceidwaid, sefydliadau eraill neu'r sector preifat.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd treftadaeth gyfoethog Abertawe, a dyna pam mae'r prosiect hwn ymysg nifer o brosiectau a fydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU."

Dylid e-bostio mynegiannau o ddiddordeb gyda throsolygon o gynigion at TrawsnewidLleoeddArDrawsySir@abertawe.gov.uk erbyn 13 Medi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gymhwyster yn www.abertawe.gov.uk/ariannuadeileddauhanesyddol

Os penderfynir bod eich mynegiant o ddiddordeb yn gymwys, byddwch yn derbyn ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1 Hydref.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2023