Toglo gwelededd dewislen symudol

Rydym yn chwilio am ddiddordebau creadigol mwyaf ysbrydoledig Abertawe

​​​​​​​Mae pobl a chanddynt ddiddordebau creadigol yn cael eu hannog i gysylltu ag Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe fel rhan o brosiect celf ar draws y DU.

Hetain Patel

Hetain Patel

Bydd gwybodaeth ysbrydoledig am eu hoff ddiddordebau yn helpu i ddathlu creadigrwydd y ddinas.

Bydd rhai arteffactau gwerthfawr a wnaed â llaw yn cael eu harddangos yn yr oriel yng nghanol y ddinas neu ymhellach i ffwrdd ar draws y DU.

Gallai'r eitemau a fydd yn cael eu harddangos fel rhan o brosiect The Hobby Cave amrywio o wisgoedd i grosio, cerameg i gerfiadau pren, roboteg ac origami.

Fe'i comisiynwyd gan y sefydliad celf, Artangel, sy'n gweithio ar y cynllun gyda lleoliadau celf ar draws y DU a'r artist arobryn, sy'n hoff iawn o Spider-Man, Hetain Patel.

Meddai Karen MacKinnon, curadur y Glynn Vivian, "Rydym yn siŵr y bydd pobl ar draws Abertawe a De Cymru'n dwlu ar y cyfle i rannu eu diddordebau. Rwy'n eu hannog i gysylltu ag Artangel."

Meddai Mariam Zulfiqar,cyfarwyddwr Artangel, "Bydd The Hobby Cave yn archwilio sut mae unigolion yn mynegi eu hunaniaeth, eu cymeriad a'u creadigrwydd drwy eu hoff ddifyrion."

Meddai Hetain Patel,"Mae'r weithred greadigol yn wirioneddol obeithiol, a chanddo fanteision enfawr i ni yn unigol ac yn rhywbeth sy'n ein cysylltu ag eraill, waeth beth fo'n gwahaniaethau." 

Bwriedir i arddangosfa agoriadol The Hobby Cave gael ei chynnal yn Llundain yr haf hwn. Bydd cyflwyniadau'n dilyn mewn 12 lleoliad yn y DU, gan gynnwys y Glynn Vivian, y flwyddyn nesaf. 

Gallwch gyflwyno manylion am eich diddordebau ar-lein.

Llun: Hetain Patel - artist a chefnogwr brwd Spider-Man - ysgogwr allweddol ar gyfer The Hobby Cave Llun:      Sam Bush

 

 

Close Dewis iaith