Toglo gwelededd dewislen symudol

Home Start Cymru

Mae gwirfoddolwr hyrwyddwyr rhieni Home Start Cymru'n cefnogi lles emosiynol teuluoedd yn y gymuned leol i gael mynediad at adnoddau lleol ac ymgysylltu â nhw.

Mae'n darparu dull anfeirniadol sy'n cefnogi anghenion y teulu ac yn rhoi cyfleoedd i gwrdd ag eraill sy'n deall profiadau teuluol yn ystod heiriau bywyd.

Mae'r gwirfoddolwyr yn cynnig y canlynol:

  • Modelau rôl cadarnhaol trwy gefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
  • Helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o fentrau rhianta sydd ar gael yn lleol.
  • Cynyddu argaeledd ac ansawdd gwybodaeth ar gyfer rhieni plant ifanc.
  • Gwella lles y teulu.
  • Helpu i annog sgiliau rhianta cadarnhaol.
  • Cynyddu cyfathrebu i helpu i fentora a chynyddu ymwybyddiaeth o fentrau rhianta i gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael i rieni.
  • Cefnogi teuluoedd sydd ag o leiaf 1 plentyn o dan 11 oed.

Helpu i:

  • Rymuso rhieni i wneud newidiadau cynaliadwy.
  • Gynyddu gwydnwch.
  • Wella hyder.

Maent yn gweithio gyda theuluoedd gan gynnig cymorth emosiynol a thosturiol sydd wedi'i deilwra ar gyfer y teulu.

Enw
Home Start Cymru
Gwe
https://www.homestartcymru.org.uk/
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025