Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y cyngor yn bwriadu estyn cymorth pandemig i'r fasnach lletygarwch

Mae'n debygol y bydd Cyngor Abertawe'n rhoi hwb arall i gaffis, tafarndai a bwytai'r ddinas wrth i'r pandemig barhau.

Outdoor Dining Wind St

Outdoor Dining Wind St

Gofynnir i gabinet rheoli'r cyngor barhau i ddarparu trwyddedau ardaloedd bwyta awyr agored am ddim tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Byddai'r penderfyniad, sy'n dilyn atal ffïoedd ar gyfer trwyddedau caffi palmant dros dro ers haf 2020, yn helpu busnesau wrth iddynt weithredu yn ôl cyfyngiadau'r pandemig. Bydd yn helpu i barhau i ddenu bywyd a bywiogrwydd i strydoedd y ddinas ac ardaloedd eraill.

Byddai'r penderfyniad, a fyddai'n arbed tua £50,000 y flwyddyn i fusnesau, yn rhan o gronfa adfer ehangach y cyngor gwerth miliynau o bunnoedd, i helpu busnesau a chymunedau adfer o'r pandemig.

Meddai Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod Cabinet y cyngor, David Hopkins,  "Mae marchnad ar gyfer lletygarwch awyr agored.

"Wrth i ni gadw pobl yn ddiogel, rydym am helpu busnesau y gorau gallwn yn ystod y cyfnod heriol hwn.

"Rydym wedi dysgu gwersi pwysig o'r newidiadau a wnaed hyd yn hyn, gan gynnwys y ffaith fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd ofalus i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cymryd rhan. Dylai llwybrau diogel a hygyrch aros ar gyfer preswylwyr.

"Drwy gael gwared ar rai o'r costau yn 2022 a'r flwyddyn nesaf gallwn arbed miloedd ar filoedd o bunnoedd i fusnesau.

"Bydd y penderfyniad yn helpu i gadw pobl yn eu swyddi ac yn rhoi mwy o opsiynau i breswylwyr fwyta ac yfed yn ddiogel, i ffwrdd o'u cartrefi, yn unol â chanllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru."

Roedd mesurau a gymerwyd gan y cyngor y llynedd i helpu busnesau lletygarwch yn cynnwys lansio proses garlam i ymgeisio am drwydded a chael gwared ar draffig yn Wind Street ar gyfer y rhan fwyaf o'r diwrnod. Neilltuwyd tua £1.2m o gyllid gan y cyngor mewn grantiau ar gyfer celfi awyr agored.

Bwriedir i gabinet y cyngor drafod lletygarwch awyr agored ar 20 Ionawr. Gofynnir i Aelodau gymeradwyo adolygiad o'r busnesau sydd wedi cael eu hestyn - gyda chymeradwyaeth y cyngor - i'r ffyrdd, ac i ehangu'r cytundebau hyn fel y bo'n briodol.

Mae'r cyngor yn hapus o hyd i drafod syniadau gan fusnesau o ran defnyddio mannau awyr agored eraill ar gyfer bwyta ac yfed.

Rhaid i bob busnes sy'n dymuno creu ardal eistedd awyr agored ar y briffordd - a'r rheini sydd am barhau i ddefnyddio'u hardaloedd eistedd presennol - wneud cais am drwydded yn www.abertawe.gov.uk/caffipalmant