Toglo gwelededd dewislen symudol

Cam allweddol ymlaen ar gyfer hwb gwasanaethau lleol yng nghanol y ddinas

Cymerodd y cynigion ar gyfer lleoliad newydd yng nghanol Abertawe ar gyfer prif lyfrgell y ddinas a gwasanaethau allweddol eraill gam mawr ymlaen heddiw.

BHS planned design

BHS planned design

Mae'r cynlluniau ar gyfer hen adeilad BHS/What! wedi'u cymeradwyo gan gynllunwyr.

Gall gwaith nawr ddechrau o ddifrif i drawsnewid yr adeilad i gynnig mynediad cyfleus at wasanaethau allweddol o bob rhan o'r cyngor a sefydliadau eraill i bobl.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r gwaith i drawsnewid yr adeilad hwn yn hynod gyffrous.

"Bydd buddion gwirioneddol i'r gymuned a'r cyngor drwy adleoli'r llyfrgell yn ogystal â nifer o wasanaethau cymorth cyhoeddus a thrydydd parti allweddol i mewn i un adeilad gydag amgylchedd agored a chroesawgar."

Mae'r dyluniadau gan y penseiri Austin-Smith: Lord Ltd, ar ran Cyngor Abertawe, yn datgelu golwg newydd ar gyfer hen adeilad BHS/What!

Y bwriad yw y bydd cladin yn rhoi golwg fwy cyson i'r adeilad nag ar hyn o bryd. Gellid goleuo cladin tryloyw o'r tu ôl i weithredu fel goleufa i helpu i ddenu ymwelwyr.

Bydd wal werdd a phlanhigion ar y to.

Y tu mewn, bydd y llyfrgell yn gweithredu fel "asgwrn cefn" a bydd grisiau canolog crand trawiadol.

Dechreuodd y contractwyr ar y gwaith paratoi ar y safle ym mis Hydref - a gallai'r adeilad agor ar ei newydd wedd y flwyddyn nesaf.

Bydd yn cynnig mynediad hawdd at wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys y llyfrgell y disgwylir iddi symud o'r Ganolfan Ddinesig. Bydd amrywiaeth o wasanaethau eraill yn symud yno hefyd.

Mae'r hwb, ynghyd â chanolfannau gwaith eraill yng nghanol y ddinas, wedi'u dylunio gan y cyngor i ddiogelu neu greu swyddi a chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas dros y blynyddoedd i ddod. Bydd miloedd o bobl yn ymweld â'r lleoliad bob wythnos.

Ymgynghorwyd â'r cyhoedd ar y prosiect.

Llun: Sut y gallai hwb cymunedol newydd canol dinas Abertawe edrych. Llun: Austin-Smith:Lord Ltd

 

 

Close Dewis iaith