Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i roi adborth am hwb sector cyhoeddus newydd arfaethedig

Cyn bo hir bydd preswylwyr a busnesau'n cael cyfle i roi adborth am gynnig i ddatblygu hwb sector cyhoeddus newydd o bwys er mwyn hybu canol dinas Abertawe a'r economi leol.

Swansea Central Block B

Swansea Central Block B

Byddai'r hwb sector cyhoeddus pum llawr a glustnodir ar gyfer tir yn hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn cynnwys mannau masnachol ar gyfer siopau a bwytai, ynghyd â swyddfeydd uwchben y rhain i'r cyngor ac amrywiaeth o bartneriaid eraill o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Gallai bron 1,000 o bobl weithio yno.

Byddai'r hwb sector cyhoeddus yn galluogi safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr i gael ei ailddatblygu, gan hefyd gefnogi masnachwyr yng nghanol y ddinas oherwydd nifer yr ymwelwyr a fyddai'n cael eu denu.

Byddai'r cyngor ac Urban Splash yn datblygu'r hwb sector cyhoeddus arfaethedig. Byddai'r berchnogaeth yn aros yn nwylo'r cyngor. Hwn fyddai cam cyntaf y broses o ddatblygu'r safle'n gyffredinol dan arweiniad Urban Splash, sy'n parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y safle.

Mae Urban Splash hefyd yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig. Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi adborth am y rhain ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

Disgwylir i'r gwaith i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus ddechrau yng nghanol 2025, yn amodol ar ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio.

Ar y cam hwn, gofynnir am adborth am ddyluniad a golwg yr adeilad, a fyddai'n bodloni'r safonau uchaf o ran cynaliadwyedd.

Byddai rhagor o gyfleoedd i roi adborth hefyd ar gael ar ôl cyflwyno cais cynllunio.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae angen i ragor o bobl weithio a byw yng nghanol dinas Abertawe i gefnogi masnachwyr a chyflogaeth sydd eisoes yn bodoli, creu swyddi newydd ac annog rhagor o siopau a busnesau eraill i agor yn y dyfodol.

"Bydd yr hwb sector cyhoeddus arfaethedig yn helpu i ddiwallu'r angen hwnnw oherwydd nifer y gweithwyr ychwanegol a fydd yn gwario eu harian mewn bwytai, siopau, caffis a busnesau eraill yng nghanol y ddinas.

"Yn amodol ar adborth ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio, adeiladu'r hwb fyddai cam nesaf y gwaith trawsnewid gwerth £1bn yng nghanol y ddinas, gan ddilyn cynlluniau fel Arena Abertawe, adfer Theatr y Palace a datblygu swyddfeydd newydd ar gyfer tenantiaid y sector preifat yn 71/72 Ffordd y Brenin.

"Mae'r cynllun yn rhan o'n hymrwymiad i adfywio canol dinas Abertawe a chreu cyrchfan blaenllaw i ymweld ag ef, ei fwynhau, a gweithio, byw ac astudio ynddo."

Digwyddiad gwybodaeth ac ymgynghori galw heibio

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ac ymgynghori galw heibio ynghylch yr hwb sector cyhoeddus newydd o ddydd Mawrth 13 Awst tan ddydd Iau 15 Awst yn hen uned siop gerddoriaeth Cranes yn ardal hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

Dyma amserau'r ymgynghoriad:

  • Dydd Mawrth 13 Awst: 1.00pm i 7.00pm
  • Dydd Mercher 14 Awst: 1.00pm i 7.00pm
  • Dydd Iau 15 Awst: 9.00am i 1.00pm

Bydd manylion gwefan lle gall pobl roi eu hadborth ar-lein ar gael yn fuan.

Hwb sector cyhoeddus newydd arfaethedig - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am y cynnig ar gyfer hwb sector cyhoeddus newydd.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2024