Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau cyhoeddus i symud i hwb cymunedol newydd yng nghanol y ddinas

Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu rhai o'i wasanaethau y gallai'r cyhoedd eu defnyddio'n fuan yn yr hwb cymunedol arfaethedig yng nghanol y ddinas.

BHS planned design

BHS planned design

Gallai miloedd o bobl ymweld â'r hwb bob wythnos, a fydd yn cael ei ddatblygu ar hen safle BHS a siop What! ar Stryd Rhydychen.

Y nod yw i'r adeilad - a allai agor yng nghanol y ddinas yn 2023 - fod yn ganolfan groesawgar ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor a sefydliadau eraill.

Mae gwasanaethau'r cyngor sy'n cael eu hystyried i adleoli yno'n cynnwys Llyfrgell Abertawe, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a'r Ganolfan Gyswllt.

Ar hyn o bryd gall y cyhoedd  gael mynediad at bob un o'r gwasanaethau hyn yn y Ganolfan Ddinesig, sydd i fod i gael ei hailddatblygu fel rhan o gynlluniau adfywio'r ddinas gwerth £1bn a gyflwynir gan y cyngor.

Ymhlith y gwasanaethau eraill sydd i fod i symud i'r hwb mae gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau'r cyngor, yr Uned Opsiynau Tai a'r Uned Cefnogi Tenantiaid, Cyflogadwyedd, Dysgu Gydol Oes, Astudiaethau Lleol a'r gwasanaethau Hanes Teulu.

Mae staff wedi cael gwybod am y cynlluniau. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau iddyn nhw a'r cyhoedd. Mae'r cyngor yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer lleoliadau gwasanaethau eraill y Ganolfan Ddinesig ar gyfer y dyfodol.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd yn haws cael mynediad at lawer o wasanaethau mewn amgylchedd mwy croesawgar - ac ni chollir unrhyw wasanaethau wrth symud.

"Bydd y datblygiad yn cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â busnesau canol y ddinas, gan greu a diogelu mwy o swyddi yng nghanol y ddinas."

Mae'r dyluniadau cychwynnol arfaethedig ar gyfer yr hwb yn dangos adeilad ar ei newydd wedd trawiadol ychydig lathenni o erddi Sgwâr y Castell, Ffordd y Brenin a Wind Street wedi'u hailwampio. Bydd yn dro byr o orsaf fysus y Cwadrant a gwasanaethau cludiant cyhoeddus eraill.

Gall y cyhoedd, yr ymgynghorwyd â hwy eisoes am y cysyniad, ddweud eu dweud am gynllun newid defnydd yr adeilad yma - www.bit.ly/HubApplic. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar gael yn ystod y misoedd i ddod.    

Llun: Sut y gallai hwb cymunedol newydd canol dinas Abertawe edrych. Llun: Austin-Smith:Lord Ltd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ionawr 2022