Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ar fin dechrau ar safle hwb gwasanaethau lleol yng nghanol dinas Abertawe

Bwriedir i'r gwaith o greu lleoliad canolog newydd yn Abertawe i brif lyfrgell y ddinas a gwasanaethau allweddol eraill gymryd cam mawr ymlaen.

Former BHS

Former BHS

Disgwylir i gontractwyr ddechrau'r gwaith paratoi ar hen adeilad BHS/What! yr wythnos nesaf.

Mewn ychydig llai na dwy flynedd, disgwylir iddo fod yn hwb gwasanaethau lleol. Mae cynigion presennol yn nodi y bydd yn cynnig mynediad hawdd i wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys y llyfrgell y bwriedir ei symud o'r Ganolfan Ddinesig. Bydd amrywiaeth o wasanaethau eraill yn ymuno â hi - a gallai'r hwb gynnig mynediad i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Bydd yr hwb, ynghyd â hybiau gwaith eraill yng nghanol y ddinas, yn diogelu neu'n creu miloedd o swyddi ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r cynnig ar gyfer yr hwb gwasanaethau lleol - sy'n cynnwys llyfrgell ganolog newydd a gwasanaethau allweddol eraill ar hyn o bryd - yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe. Pan fydd yn agor yn 2023, bydd miloedd o bobl yn ymweld ag ef bob wythnos.

Mae'r cyngor hefyd yn gwneud cynnydd ar hwb arloesi yn 71/72 Ffordd y Brenin - lle disgwylir i waith adeiladu ddechrau eleni - ac ar hwb gwaith y sector cyhoeddus rhwng pont ddeniadol newydd Bae Copr ac Eglwys y Santes Fair.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Mae cynnydd yn cael ei wneud ar y tri hwb cyflogaeth mawr hyn a fydd yn dod â phobl i ganol ein dinas; bydd yr hwb sector cyhoeddus ar ei ben ei hun yn creu ac yn diogelu miloedd o swyddi yng nghanol y ddinas."

Bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach dros y misoedd nesaf.

Bydd y gwaith paratoi'n golygu bod angen cau'r lôn rhwng Marks & Spencer a hen adeilad BHS dros dro, ynghyd â nifer bach o leoedd parcio ym maes parcio Dwyrain Park Street. Mae cannoedd o leoedd parcio gerllaw - www.bit.ly/CityCentreParking

Rhagor: www.abertawe.gov.uk/FforddyBrenin

Llun: Yr adeilad yng nghanol dinas Abertawe y disgwylir ei drawsnewid yn hwb gwasanaethau lleol.

 

 

Close Dewis iaith