Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Hwb wifi cyflym ar gyfer Bae Copr

Mae technoleg wifi gyflym a dibynadwy'n cael ei chyflwyno yn ardal Bae Copr newydd Abertawe, gan ganiatáu i filoedd o bobl ffrydio cynnwys ar yr un pryd i'w dyfeisiadau symudol.

Wi-Fi

Wi-Fi

Bydd partneriaeth rhwng Cyngor Abertawe a Vodafone yn golygu y bydd y gwasanaeth am ddim ar gael mewn ardal sy'n cynnwys:

  • Parc arfordirol 1.1 erw drws nesaf i Arena Abertawe
  • Y ramp newydd wrth hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant sy'n arwain at y bont dirnod newydd dros Oystermouth Road.
  • Y bont ei hun

Bydd ymwelwyr â Marchnad Abertawe hefyd yn elwa o'r gwasanaeth newydd, a fydd yn mynd yn fyw pan fydd y gwaith adeiladu ar gam un Bae Copr wedi'i gwblhau yn ddiweddarach eleni.

Bydd gan Ambassador Theatre Group (ATG), a fydd yn gweithredu Arena Abertawe, ei wifi o safon ei hunan ar gyfer ymwelwyr â'r arena pan fydd yr atyniad yn agor ei ddrysau yn gynnar yn 2022.

Mae ardal cam un Bae Copr yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Mae'r gwaith adeiladu'n cael ei arwain gan Buckingham Group Limited.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cysylltedd digidol ar gyfer ein preswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas, a dyna pam rydym yn gweithio gyda Vodafone er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o wifi ar gael yn ein hardal cam un Bae Copr.

"Bydd y gwasanaeth hwn yn galluogi miloedd o bobl i ffrydio cynnwys ar yr un pryd o'u dyfeisiau symudol, gan helpu i ddarparu ar gyfer torfeydd sy'n gadael Arena Abertawe neu deuluoedd sy'n ymweld â'r parc arfordirol newydd sy'n cael ei adeiladu.

"Bydd y gwasanaeth hwn, sydd hefyd yn cael ei gyflwyno ym Marchnad Abertawe, o fudd i filiynau o bobl bob blwyddyn wrth helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i Abertawe a galluogi gweithio o bell yn fwy effeithlon. Mae'n ychwanegu at y wifi cyhoeddus am ddim sydd ar gael ar draws canol y ddinas, a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno i ganol trefi a chymunedau eraill ar draws y sir.

"Ond un rhan yn unig o'n gweledigaeth ddigidol ar gyfer Abertawe yw hwn, y disgwylir iddi roi hwb i gysylltedd ar gyfer preswylwyr a busnesau ym mhob rhan o'r ddinas - mewn ardaloedd trefol a gwledig - diolch i gynlluniau fel rhaglen isadeiledd digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe."

Meddai Chris Hankins, Pennaeth Vodafone UK Canolbarth Lloegr, Cymru a Gorllewin Lloegr, "Mae technoleg yn dod â manteision diddiwedd. Mae'n cefnogi'r offer digidol sydd eu hangen ar fusnesau i groesawu'r ffyrdd newydd o weithio a meithrin arloesedd. Gall sbarduno economïau lleol, gan ddenu busnesau a swyddi i'r ardal. A gall helpu preswylwyr a thwristiaid, gan wneud ardaloedd yn lleoedd mwy atyniadol i fyw ac ymweld â nhw. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chyngor Abertawe a gweld sut y bydd Bae Copr a'r ardal ehangach yn ffynnu drwy'r bartneriaeth hon."

Bydd rhaglen isadeiledd digidol rhanbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd bellach wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn helpu Cyngor Abertawe i gyflwyno cysylltedd ffeibr llawn mewn parciau busnes ac ardaloedd eraill yng nghanol y ddinas.

Gallai'r cyngor hefyd ddefnyddio arian y Fargen Ddinesig i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar gynlluniau talebau band eang mewn cymunedau gwledig a fyddai'n rhoi cysylltiad rhyngrwyd gwell i'w haelwydydd a'u busnesau lleol.

Gan barhau i ehangu ar ei gefnogaeth i gymunedau yn Abertawe, maeVodafone hefyd wedi cyhoeddi partneriaeth ddigidol newydd ddwy flynedd o hyd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, lle bydd lolfa fusnes newydd â brand Vodafone yn agor yn Stadiwm Liberty. Mae Vodafone yn bwriadu defnyddio'r lle i ddod â busnesau lleol ynghyd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2022