Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Goblygiadau Asesiad Integredig

Mae'r Cyngor yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Cydraddoldeb (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd), Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur y Gymraeg (Cymru), ac mae'n rhaid iddo, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu. 
  • Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r bobl nad ydynt yn ei rhannu. 
  • Cyflwyno gwell canlyniadau i'r bobl hynny sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol 
  • Ystyried cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • Sicrhau y diwellir anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mandadu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gyflawni datblygu cynaliadwy. Mae datblygu cynaliadwy'n golygu'r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant'.

Mae ein proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEC) yn sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth briodol i'r uchod. Mae hefyd yn ystyried materion a blaenoriaethau allweddol eraill, fel tlodi ac allgau cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, gofalwyr, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'r Gymraeg.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024