Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Yr iaith Gymraeg

Mae gwasanaethau'r cyngor ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac rydym yn croesawu cyswllt yn y naill iaith neu'r llall.

Ymchwiliad i orfodi safonau: Adroddiad a hysbysiad penderfynu 4 Hydref 2022

O 30 Mawrth 2016 ymlaen disodlodd ein cynllun iaith Gymraeg (datblygwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993) gan Safonau'r Iaith Gymraeg - ysgrifennwyd gan lywodraeth Cymru yn ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg -  y rheolydd - y safonau penodol i'r awdurdod. Mae'r safonau ar gael i lawrlwytho isod.

Safonau’r iaith Gymraeg (hysbysiad cydymffurfio) (PDF) [414KB]

Gweithredu'r Safonau (Excel doc) [110KB]

Strategaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gymraeg

Mae nifer o bobl yn Abertawe'n siarad Cymraeg a Saesneg bob dydd; gartref, gyda ffrindiau ac yn y gweithle.

Mae un o bob chwech preswylwyr yn siarad Cymraeg, a llawer ohonynt fel eu hiaith gyntaf. Mae diddordeb yn yr iaith yn tyfu'n gyflym fel rhan o ddiwylliant yr ardal. Mae delio â phobl yn yr iaith o'u dewis yn rhan o'n polisi cyfle cyfartal.

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn astudio Cymraeg yn yr ysgol hyd at 16 oed. Mae llawer o oedolion yn dysgu Cymraeg am resymau cymdeithasol neu ar gyfer y gwaith. Mae llawer o siaradwyr Cymraeg sy'n dymuno gwella eu sgiliau iaith hefyd yn mynychu dosbarthiadau.

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn croesawu plant os yw eu teuluoedd yn siarad Cymraeg ai peidio. Mae gan y cyngor dwy ysgol uwchradd Gymraeg - Ysgol Gyfun Gŵyr (Tregŵyr) ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe (Pen-lan) gydag un deg un ysgol bartner gynradd Gymraeg.

Mae'r Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn monitro cydymffurfiad yr awdurdod â ddeddfwriaeth ynghylch yr iaith Gymraeg. Disodlodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan swyddfa'r Comisiynydd yn 2012.

Am wybodaeth ar ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg, gwasanaethau cyfieithu cymunedol:

Menter Iaith Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Sut i wneud cwyn

Os ydych am gwyno oherwydd eich bod yn amau nad yw Cyngor Abertawe yn cydymffurfio â'r safonau Iaith Gymraeg defnyddiwch drefn gwyno'r Cyngor.

Sut mae'r awdurdod yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Y Tîm Rheoli Corfforaethol sy'n parhau i fod yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol ar gyfer y Gymraeg.

Strategaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gymraeg

Mae'r strategaeth yn cwmpasu dau brif faes gweithredu - y gymuned a'r awdurdod.
Close Dewis iaith