Dyma sut i fanteisio i'r eithaf ar benwythnos IRONMAN 70.3 diweddaraf Abertawe
Mae'n benwythnos mawr i gefnogwyr chwaraeon Abertawe wrth i filoedd o wylwyr fwynhau digwyddiad arall o'r radd flaenaf.
Felly sut gall y rheini sy'n gwylio IRONMAN 70.3 Abertawe fanteisio i'r eithaf ar y digwyddiad? A beth gall y rheini nad ydynt yn dod i'r digwyddiad wneud er mwyn mwynhau'r penwythnos?
Mae'r digwyddiad - gyda mynediad am ddim i wylwyr - yn cael ei drefnu gan IRONMAN a Chyngor Abertawe gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n mynd i fod yn benwythnos gwych o chwaraeon ar gyfer y ddinas.
"Bydd y digwyddiadau hyn, ynghyd â'r holl ddigwyddiadau eraill y mae'r ddinas yn eu cynnal bob blwyddyn, yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i gystadlu mewn chwaraeon - boed hwnnw'n chwaraeon cystadleuol neu adloniannol - ac i fwynhau ein hardal leol a'n cyfleusterau gwych.
"Hoffem ddiolch i'r holl breswylwyr a busnesau lleol sydd efallai wedi gorfod newid eu harferion arferol ar gyfer y dydd Sul arbennig hwn."
Cynhelir trydedd ras IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul Bydd athletwyr ac ymwelwyr yn mwynhau llwybr gwych llawn golygfeydd prydferth gan gynnwys dociau hanesyddol SA1, y Mwmbwls, Gŵyr a glannau eang Bae Abertawe.
Bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i'r ddinas - a bydd miloedd o bobl leol yn mynd i gefnogi'r athletwyr.
Cynhelir y digwyddiad gyda chefnogaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Amcangyfrifir bod digwyddiad IRONMAN yn denu oddeutu 20,000 o wylwyr i Abertawe. Ochr yn ochr â Chyfres Para Treiathlon y Byd, amcangyfrifir ei fod yn werth mwy na £2m i'r economi leol.
Daw'r cystadleuwyr o bedwar ban byd. Mae rhai o'r ymgeiswyr o safon fyd-eang.
Bydd hefyd nifer mawr o wirfoddolwyr a fydd yn helpu gyda ras fawr Abertawe ddydd Sul.
Bydd mannau gwych i wylio yn cynnwys Doc Tywysog Cymru yng Nglannau SA1, yr heol glan môr rhwng yr Ardal Forol a'r Mwmbwls, ac ar gyfer y rhan feicio, rhannau o benrhyn Gŵyr.
Bydd mannau poblogaidd i wylwyr yn cynnwys tafarn The Woodman yn Blackpill, Siop Goffi'r Tri Chlogwyn yn Southgate, Sherperds a Chanolfan Treftadaeth Gŵyr ym Mharcmill, The Secret Beach Bar and Kitchen yn San Helen a Lido Blackpill.
Gall gwylwyr ddechrau mwynhau'r cyfnod cyn y digwyddiad o ddydd Gwener (12 Gorffennaf) pan fydd yr IRONMAN EXPO a'r siop nwyddau swyddogol yn agor o 11am i 5pm o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd ar agor o 9am i 5pm ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Bydd trefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith ddydd Sul yn ardal glan môr y ddinas a rhannau o benrhyn Gŵyr. Bydd hyn yn helpu'r trefnwyr i gadw'r athletwyr, y cefnogwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd yn ddiogel.
Bydd meysydd parcio'r Cyngor yng nghanol y ddinas ar agor o hyd - www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio
Mae llawer o wybodaeth ar gael - gan gynnwys mapiau, gwybodaeth i wylwyr, trefniadau cau ffyrdd, cwestiynau cyffredin a gwybodaeth i ymwelwyr - ar wefan digwyddiadau'r Cyngor.