Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Mae lleoliadau diwylliannol Abertawe ynghyd â'r cyngor yn dathlu cyflawniadau merched, gan gynyddu ymwybyddiaeth o wahaniaethu a'r camau sy'n cael eu cymryd i geisio cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

International Women's Day Graphic

International Women's Day Graphic

Drwy gydol mis Mawrth, mae gwasanaeth llyfrgell y ddinas wedi bod yn tynnu sylw at straeon anhygoel grymuso merched ar gyfer Mis Hanes Merched.

Mae hefyd yn rhannu ei arddangosfa ddigidol ar Ferched Rhagorol Abertawe sy'n cefnogi menywod arloesol o Abertawe sydd wedi gadael eu marc mewn amrywiaeth eang o feysydd, o wyddoniaeth a diwydiant i wleidyddiaeth, y celfyddydau a chwaraeon dros y 200 mlynedd ddiwethaf.

Mae Archifau Gorllewin Morgannwg yn treulio mis yn amlygu lluniau o fenywod lleol nas gwelwyd yn aml ynghyd â straeon amdanynt, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o brofiadau a gafwyd gan fenywod yn Abertawe ar hyd y blynyddoedd.

Heno byddwn yn goleuo Neuadd y Ddinas i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched a hefyd i gefnogi Cyfiawnder Pensiwn i fenywod Abertawe sy'n parhau i frwydro yn erbyn yr anghyfiawnder a ddioddefwyd gan fenywod a aned yn y 50au mewn perthynas â newidiadau i'w pensiynau.

Close Dewis iaith