Dathlu merched arloesol o Abertawe
Mae dwy ferch arloesol o Abertawe o wahanol ganrifoedd yn cael eu dathlu wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched gael ei nodi yn y ddinas.
Ddydd Mercher, gofynnir i gynghorwyr enwi'r parc arfordirol newydd ar bwys Arena Abertawe yn ffurfiol, i anrhydeddu'r nofelydd Fictoraidd, y fenyw fusnes fedrus a'r dyngarwr, Amy Dillwyn.
Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd yn golygu y caiff y parc ei alw'n swyddogol yn Barc Amy Dillwyn mewn pryd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched ddeuddydd yn ddiweddarach, ddydd Gwener 8 Mawrth.
Yng nghyfarfod dilynol y cyngor, yn ddiweddarach ym mis Mawrth, bydd cynnig pellach yn mynd gerbron cynghorwyr yn gofyn am eu cymeradwyaeth i ailenwi Ystafell Gaerloyw yn Neuadd y Ddinas ar ôl y cynghorydd adnabyddus hir ei gwasanaeth ac Arglwydd Faer cyntaf Abertawe, Lilian Hopkin MBE.
Roedd y diweddar Mrs Hopkin hefyd yn swyddog undeb llafur ymroddedig yn Undeb y Gweithwyr Dillad - undeb i fenywod yn bennaf.