Hwb gwybodaeth yn agor i helpu aelwydydd i leihau biliau ynni
Mae gan ganol dinas Abertawe hwb gwybodaeth newydd ar gyfer preswylwyr lleol sy'n awyddus i leihau eu biliau tanwydd.
Wedi'i gomisiynu gan Gyngor Abertawe a'i redeg gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe gyda chymorth partneriaid arbenigol, nod yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni yw helpu cartrefi gyda chymorth annibynnol, hygyrch am ddim.
Mae'r hwb ar Nelson Street, yn agos at Orsaf Fysus y Cwadrant, hefyd yn bwriadu mynd â'r gwasanaeth ar y ffordd i gymunedau o amgylch y ddinas.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Mae costau ynni cynyddol, chwyddiant a'r pandemig ymhlith y ffactorau sy'n tynhau cyllidebau teuluoedd.
"Mae'r cyngor yn parhau i helpu'r rheini sy'n agos at fyw mewn tlodi - ac mae ein hwb ynni yn adnodd newydd pwysig iddyn nhw ac eraill sydd am gadw biliau ynni mor isel â phosib a chadw eu cartrefi'n gynnes.
"Mae llawer o aelwydydd yn Abertawe yn wynebu argyfwng ynni digynsail oherwydd y prisiau cynyddol, ac rydym ni a'n partneriaid gwerthfawr yn y fenter hon am eu helpu."
Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni; mae cymorth yn allweddol i alluogi pobl i weithredu, felly rydym yn falch iawn o ddod â phecyn o wybodaeth i un lle canolog, gyda chefnogaeth rhwydwaith o arbenigwyr er mwyn helpu pwy bynnag sydd ei angen.
"Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth i bawb ar sut i insiwleiddio cartrefi yn well, newid darparwyr ynni a chael mynediad at gymorth ar hawliau lles.
"Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei gostau tanwydd ei hun neu gostau ei berthnasau alw heibio a chael sgwrs gyfrinachol â'n tîm".
Mae Canolfan yr Amgylchedd yn ganolbwynt cymunedol lleol sydd wedi ysbrydoli camau gweithredu cadarnhaol ar gyfer dyfodol gwyrddach ac iachach am dros 25 mlynedd.
Agorodd yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni heddiw (dydd Iau 20 Ionawr) mewn uned siop wag rhwng Gershwins Coffee House a Franco's Cafe. Ariennir y fenter hon gan gronfa adferiad economaidd y cyngor a Chronfa Materion Cymunedol Western Power.
Mae'r hwb ar agor ar ddydd Iau, 12.00pm-6.00pm, dydd Gwener (10.00am-4.00pm) a dydd Sadwrn (9.00am-3.00pm).
Mae ganddo staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig o Ganolfan yr Amgylchedd a sefydliadau eraill a disgwylir iddo aros ar agor am gyfnod prawf i ddechrau tan ddiwedd mis Ebrill.
Yn ogystal â'i wybodaeth a chymorth ynni, mae'r hwb yn gwerthu nwyddau ecogyfeillgar gan gynnwys cyfleusterau ail-lenwi nwyddau cartref.
Os bydd ei gyfnod prawf cychwynnol yn ddefnyddiol i'r cyhoedd, bydd y cyngor a'i bartneriaid wedyn yn ystyried ehangu'r cynnig i barhau i weithredu yn y dyfodol.
Mae partneriaid a chefnogwyr yn cynnwys National Energy Action - Cymru, Cymru Gynnes, Cynllun Cartrefi Cynnes Nyth Llywodraeth Cymru, adrannau'r cyngor, elusen ieuenctid Swansea MAD, EON Energy, City Energy ac YES Energy Solutions.
- Hwb Ymwybyddiaeth Ynni Abertawe - 13 Nelson Street, Abertawe.
- Canolfan yr Amgylchedd Abertawe - www.environmentcentre.org.uk
Llun: Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, canol, gyda Rhian Corcoran a Bradey Ewers o Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe yn Hwb Ymwybyddiaeth Ynni newydd canol y ddinas.