Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Grant Arloesi yn cael ei lansio ar gyfer busnesau Abertawe

Mae grant newydd wedi'i lansio ar gyfer busnesau Abertawe sydd am ddatblygu cynnyrch newydd, masnacheiddio syniadau neu ddatblygu prosesau sy'n cefnogi arloesedd a thwf.

Business innovation

Business innovation

Gellir gwneud cais yn awr am hyd at £10,000 o gyllid, diolch i'r cynllun Grant Arloesi sydd ar gael yn awr o Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae enghreifftiau o'r prosiectau cymwys yn cynnwys:

  • Cefnogaeth i ddatblygu a phrofi cynhyrchion neu wasanaethau newydd gan gynnwys prototeipio.
  • Costau drafftio a chyflwyno patent.
  • Ymchwilio i brosesau, cynnyrch a gwasanaethau a'u datblygu.
  • Profi syniadau arloesol.
  • Ymchwil i'r farchnad, prosiectau cwmpasu neu ddadansoddi cystadleuwyr i brofi a nodi bylchau yn y farchnad.

Mae'n rhaid i geisiadau ddangos arloesedd a'r bwriad o gyflwyno cynnyrch newydd neu broses newydd neu well. Mae'n rhaid iddynt ddangos hefyd eu bod yn cydweithio â phartner ymchwil yn y DU.

Mae'r rhaid i fusnesau hefyd ddangos dichonoldeb masnachol eu cynigion. Gallai hyn gynnwys twf busnes neu greu swyddi, cyfran uwch o'r farchnad, gwell cynhyrchedd neu fwy o effeithlonrwydd.

Dylai ceisiadau hefyd ddangos na fyddai'r arloesedd arfaethedig yn mynd rhagddo heb gymorth grant.

Rhaid i'r busnes sy'n cyflwyno cais ddarparu 50% o arian cyfatebol ar gyfer yr holl arian a roddir.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae nifer mawr o gynlluniau grant bellach ar gael ar gyfer busnesau Abertawe ond mae ein trafodaethau â'r gymuned fusnes yn dangos bod galw am grant o'r math hwn felly rydym yn darparu ar gyfer bwlch yn y farchnad.

"Mae gan Abertawe hanes balch o arloesedd ac entrepreneuriaeth ac felly mae gan lawer o'n busnesau syniadau penigamp y mae angen cymorth ariannu arnynt ar eu cyfer i helpu i'w masnacheiddio.

"Bydd y grant arloesedd hwn yn helpu ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd y camau nesaf i naill ai tyfu, cyflogi mwy o staff neu ddod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon.

"Mae llwyddiant ein busnesau'n allweddol i gryfder economi Abertawe, felly rydym yn benderfynol o ddarparu cymorth mewn cynifer o ffyrdd â phosib.

Gofynnir i fusnesau e-bostio GrowthGrant@abertawe.gov.uk i ofyn am ffurflen gais.

Mae amrywiaeth o gymorth arall ar gael hefyd i fusnesau Abertawe. Dylai busnesau fynd i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys cyfleoedd ariannu, cymorth cychwyn busnes, cymorth digidol a chyngor ar recriwtio a hyfforddiant.

Close Dewis iaith