Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodyn atgoffa i lawrlwytho'r ap gyda'r Nadolig ar y gweill

Caiff preswylwyr Abertawe eu hatgoffa i lawrlwytho ap am ddim newydd lle gallant gael mynediad at gynigion mewn siopau a bwytai a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yng nghanol dinas Abertawe.

City centre app launch

City centre app launch

Lansiwyd yr ap gyda gwobrau i breswylwyr, sy'n cael ei reoli gan BID Abertawe (Ardal Gwella Busnes) a'i ariannu gan Gyngor Abertawe, am y tro cyntaf y mis diwethaf.

Mae dros 700 o breswylwyr wedi lawrlwytho'r ap am ddim, sydd bellach yn cynnwys dros 25 o gynigion a rhestr o nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng nghanol y ddinas.

Gall preswylwyr elwa o'r ap newydd sy'n cymryd lle hen ap Calon Fawr Abertawe drwy fynd i app.bigheartofswansea.co.uk a'i osod ar eu dyfeisiau symudol.

Mae'r ap gwe hefyd yn cynnwys cyfeiriadur chwiliadwy o fusnesau canol y ddinas yn ogystal â'u horiau agor, lleoliadau a chyfarwyddiadau i'w cyrraedd.

​Mae nodweddion eraill yn cynnwys adran bwyta allan gyda rhestr o fwytai a chaffis canol dinas Abertawe.

Caiff lleoliadau a gwybodaeth am yr holl feysydd parcio yng nghanol y ddinas a reolir gan y cyngor, lle mae modurwyr yn talu £1 yr awr i barcio gydag uchafswm o £5 i barcio am y diwrnod cyfan, bellach eu cynnwys ar yr ap. 

I ddangos eu bod yn byw yn Abertawe a chael mynediad at y cynigion ar yr ap, gall preswylwyr greu cyfrif drwy fynd i dudalen fewngofnodi'r ap drwy'r ddewislen. Gofynnir iddynt wedyn i roi cyfeiriad e-bost, creu cyfrinair a chyflwyno'u côd post yn Abertawe.

​Pan fydd preswylwyr yn hawlio cynnig, bydd côd QR yn cael ei ddangos iddynt ar eu dyfais symudol y gallant ei ddefnyddio yn safle'r busnes sy'n darparu'r cynnig.

Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r ap yn darparu llwyfan lle gall pobl leol ddod o hyd i bob math o wybodaeth am ganol y ddinas, yn ogystal â chael mynediad at ostyngiadau arbennig ar gyfer preswylwyr Abertawe.

"Mae mwy a mwy o ddigwyddiadau, cynigion a gwybodaeth arall bellach yn cael eu hychwanegu bob wythnos wrth i'r ap barhau i gael ei gryfhau i fodloni anghenion pobl a busnesau lleol."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bwriad yr ap yw cyflwyno manteision i breswylwyr Abertawe diolch i'r wybodaeth a'r mynediad at gynigion y mae'n ei ddarparu, yn ogystal â helpu masnachwyr yng nghanol y ddinas o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr y mae'r ap yn ceisio'i annog.

"Gan fod tymor siopa'r Nadolig bellach wedi dechrau, mae'n amser gwych i bobl leol lawrlwytho'r ap a darganfod popeth sydd ar gael yng nghanol ein dinas - o siopau, bwytai a thafarndai i leoliadau diwylliannol, busnesau sy'n seiliedig ar weithgareddau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

"Yn ogystal â rhaglen adfywio barhaus gwerth £1bn i wneud canol y ddinas yn lle mwy bywiog i fyw, gweithio, astudio ynddo ac i ymweld ag ef a'i fwynhau, mae gennym hefyd ymgyrch #JoioCanolEichDinas barhaus ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor i godi proffil ein busnesau gwych yng nghanol y ddinas."

Mae'r ap gwe hefyd yn gysylltiedig â chynllun cerdyn ffyddlondeb newydd canol y ddinas sy'n galluogi preswylwyr i gasglu pwyntiau am siopa yn y busnesau sy'n cymryd rhan, gyda chyfle i ennill gwobr fisol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2023