Toglo gwelededd dewislen symudol

Alistair Brownlee ymhlith y sêr a fydd yn cymryd rhan mewn penwythnos mawr o chwaraeon yn Abertawe

Bydd rhai o dreiathletwyr a pharadreiathletwyr gorau Prydain yn arwain y ffordd wrth i Abertawe gynnal penwythnos o chwaraeon rhyngwladol o fri.

Triathletes Swimming

Triathletes Swimming

Bydd y pencampwr Treiathlon sydd wedi ennill dwy fedal Olympaidd, Alistair Brownlee, ymhlith yr athletwyr elît a fydd yn nofio, yn rhedeg ac yn beicio ar draws y ddinas a bro Gŵyr y dydd Sul hwn yn y digwyddiad IRONMAN 70.3 cyntaf i'w gynnal yn Abertawe.

Bydd y paradreiathletwyr o Gymru, Rhys Jones, yn cymryd rhan yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe y diwrnod cynt - yn syth ar ôl dod yn bumed yng Ngemau'r Gymanwlad dros y penwythnos.

Bydd tua 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad IRONMAN 70.3, gyda 700 o ardal Abertawe'n unig, a disgwylir y bydd tua 10,000 o wylwyr yn sefyll ar hyd y llwybr.

Bydd athletwyr proffesiynol gorau IRONMAN yn cynnwys Kat Matthews o Brydain. Enillodd ras IRONMAN UK 2021 yn Bolton a daeth yn ail yn nigwyddiad Pencampwriaeth y Byd IRONMAN ym mis Mai eleni.

Mae trefnwyr y penwythnos sef IRONMAN a Thriathlon Prydain yn cael eu cefnogi gan y cyngor yn eu hymdrechion i'w wneud yn benwythnos diogel, llawn ysbrydoliaeth i bawb.

Dywedodd aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, fod y penwythnos yn addo bod yn un anhygoel ar stepen drws Abertawe, gyda'r 70.3 yn unig yn rhoi hwb o oddeutu £2.5m i dwristiaeth a busnesau lleol.

Meddai, "Rwy'n diolch i'r holl gyfranogwyr a'r cefnogwyr am ddod ond hefyd i breswylwyr a busnesau lleol sy'n helpu i wneud IRONMAN 70.3
Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe yn bosib."

Rhagor: Ironman a'r Para Tri

 

 

Close Dewis iaith