Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad chwaraeon arbennig yn y ddinas i ddenu miloedd o ymwelwyr newydd

​​​​​​​Pan fydd Nic Beggs yn plymio i mewn i Ddoc Tywysog Cymru i ddechrau ei dreiathlon IRONMAN 70.3 Abertawe drwy nofio am 1.2 milltir, caiff ei gefnogi gan o leiaf saith perthynas agos.

Nic Beggs

Nic Beggs

Bydd llawer o ffrindiau a chydweithwyr o Freedom Leisure hefyd yn y dorf.

Bydd tri pherthynas agos yn ymweld â'r ddinas o Sir Gaerfyrddin, dau o dde-ddwyrain Lloegr, a dau o ardal Abertawe. Byddant yn treulio'r diwrnod yn y ddinas, yn mwynhau brecwast mewn caffi lleol a chinio mewn bwyty yn y ddinas.

Mae stori Nic yn arddangos sut bydd bron 2,000 o athletwyr sy'n cwblhau'r her chwaraeon yn dod â hwb amserol i economi leol Abertawe a Gŵyr.

Mae'r trefnwyr yn amcangyfrif y bydd y digwyddiad yn dod â hwb economaidd gwerth hyd at £2.5 miliwn i'r rhanbarth, wrth i ddegau ar filoedd o athletwyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff deithio i ardal Abertawe ar gyfer penwythnos y ras.

Meddai Nic, rheolwr ardal ar gyfer sefydliad nid er elw Freedom Leisuresy'n cynnal cyfleusterau hamdden y cyngor ar gyfer pobl Abertawe, "Bydd yn wych cael fy nheulu o'm cwmpas i fod ymhlith y miloedd o gefnogwyr o amgylch y cwrs - a byddant yn gwario arian gyda busnesau Abertawe.

"Bydd bob amser rhai busnesau sy'n gorfod addasu ac mae LC Abertawe, a gynhelir gan Freedom Leisure, yn un ohonynt. Byddwn yn addasu ac yn aros ag agor i bawb ymweld â ni; rydym yn gobeithio bydd busnesau eraill yn croesawu'r digwyddiad hefyd - ac y byddwn yn gweld mwy fyth o fanteision dros y blynyddoedd i ddod. At ei gilydd, bydd pobl Abertawe'n elwa'n fawr o'r digwyddiad hwn."

Bydd y criw o athletwyr yn Abertawe'n cynnwys Dave Lanham a fydd yn cystadlu mewn treiathlon am y tro cyntaf. Mae e'n gyfrifol am waith cynnal a chadw yn lleoliadau Freedom Leisure Abertawe. Bydd cyfarwyddwr gweithrediadau Freedom Leisure, Jeremy Rowe - rheolwr cyffredinol rhagflaenydd yr L2, Canolfan Hamdden Abertawe gynt - hefyd yn cystadlu. Bydd rheolwr rhanbarthol Freedom Leisure, Lee Thomas, bachgen o Abertawe sydd bellach yn byw yng Nghaerwrangon, hefyd yn cymryd rhan yn ogystal â Phrif Weithredwr Freedom Leisure, Ivan Horsfall Turner.

Rhyngddynt, mae'r pump o gwmni Freedom yn disgwyl denu dros 40 o gefnogwyr.

Meddai Ivan Horsfall Turner, "Rwy'n edrych ymlaen at roi cynnig ar y cwrs gyda chefnogaeth gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr - a gweld yr effaith hirdymor y bydd yn ei chael ar ysbrydoli'n cymunedau lleol i fod yn heini."

Cynhelir treiathlon IRONMAN 70.3 cyntaf Abertawe ddydd Sul 7 Awst - gan roi hwb i'r economi leol a dod â sylw rhyngwladol at y rhanbarth.

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi'r digwyddiad, yn ogystal â Chyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe a gynlluniwyd ar gyfer 6 Awst.

Mae'r cyngor wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau polisi i ddarparu cefnogaeth yn y misoedd i ddod i'n cymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Roedd cyflwyno'r rhaglen ddigwyddiadau fwyaf erioed yn un o'r ymrwymiadau hynny.

Mae'r digwyddiadau ar 6 a 7 Awst yn golygu y bydd trefniadau cau ffyrdd dros dro tymor byr ar waith ar draws y ddinas ac yng Ngŵyr. Mae taflenni, gan gynnwys mapiau o'r llwybrau ac amserlenni cau ffyrdd wedi cael eu postio gan drefnwyr i aelwydydd lleol yr effeithir arnynt. Maent hefyd wedi cysylltu â busnesau a sefydliadau lleol.

Mae trefnwyr y digwyddiad yn hapus i drafod sut maent yn diwallu anghenion pobl a busnesau lleol. Gall preswylwyr, ymwelwyr a busnesau ag unrhyw ymholiadau ynghylch trefniadau fel newidiadau i drefn ffyrdd e-bostio swansea@britishtriathlon.org a swansea70.3@ironmanroadaccess.com.

Rhagor: www.bit.ly/WTPSswansea & www.ironman.com/im703-swansea

Llun: Nic Beggs