Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'r llwyfan yn barod ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe

Mae'r llwyfan yn barod ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.

Daniel John Martin

Daniel John Martin

Mae'r ŵyl a gynhelir o 15 i 19 Mehefin yn cael ei threfnu gan Gyngor Abertawe, a bydd yn cynnwys artistiaid o'r radd flaenaf ac arddulliau jazz amrywiol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r ŵyl yn addo bod yn ddathliad eithriadol o dalent, creadigrwydd a phŵer jazz."

Y gyfres o gyngherddau:

  • Hoop - Band saith aelod penigamp sy'n cyfuno ffync, roc a jazz. 15 Mehefin, 8pm, The Garage, Uplands.
  • Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle - Laurence Cottle yw un o brif gerddorion jazz a threfnwyr cerddorol y DU. 16 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.
  • Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin - Mae Daniel John Martin, sy'n byw ym Mharis, yn un o brif gitaryddion jazz sipsiwn Ewrop. 17 Mehefin, 2.30pm, Theatr Dylan Thomas.
  • The Coalminers - band saith aelod sy'n cyfuno jazz traddodiadol ag elfennau gwerin a blŵs. 17 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.
  • Iain MacKenzie - canwr ac ysgrifennwr caneuon jazz o'r Alban sy'n cael ei ganmol am ei lais pwerus. 18 Mehefin, 2.30pm, Theatr Dylan Thomas.
  • Bydd HHH a Mo Pleasure yn creu sain bwerus ac egnïol er mwyn ysgogi'r gynulleidfa i ddawnsio. 18 Mehefin, 8pm, Theatr Dylan Thomas.

Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Gweithdy Jazz Cerdd Abertawe - gweithdy prynhawn i gerddorion ifanc (Gradd 5) trwy garedigrwydd Cerdd Abertawe a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru, 17 Mehefin, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
  • Mordaith Jazz Copper Jack - mordaith 90 munud ar afon Tawe gyda cherddoriaeth jazz fyw gan gerddorion lleol o fri. 17 Mehefin, 2.30pm, Deuawd Louis ac Ella. 18 Mehefin, 2.30pm, Triawd Hoss a Norcross
  • Bonansa Canu Cyrn ar y Cyd - bydd disgyblion blwyddyn 3 yn cael y cyfle i ddathlu eu cyflawniadau a gwneud cerddoriaeth, gyda chyfeiliant band mawr beiddgar, ddydd Llun 19 Mehefin.

Bydd hefyd tua 30 o berfformiadau am ddim yn ystod y penwythnos, gyda doniau lleol ynghyd ag artistiaid o bell yn chwarae mewn lleoliadau fel The Swigg, The Pump House, gwesty The Queen's, Riverhouse, Gwesty Morgan's a'r Clwb Llafur.

Meddai ymgynghorydd artistig yr ŵyl, Dave Cottle, "Mae gennym gerddorion a bandiau'n dod i Abertawe o UDA ac Ewrop, ynghyd â llawer o'r ensembles jazz gorau.

Tocynnau: joiobaeabertawe.com

Llun: Daniel John Martin - y disgwylir iddo chwarae yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mehefin 2023