Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i gerddorion ifanc chwarae jazz

Gwahoddir cerddorion ifanc i gymryd rhan mewn gweithdy am ddim gyda Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Jazz Band The Coalminers

Bydd y digwyddiad a gefnogir gan wasanaeth y cyngor, Cerdd Abertawe, yn cael ei gynnal ar 17 Mehefin o 1.30pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r ddinas.

Fel rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, maer' gweithdy hwn yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu am yr offerynnau a ddefnyddir mewn jazz, sut i chwarae'n fyrfyfyr a chwarae mewn ensemble. Bydd opsiwn i berfformio gyda'r band mawr.

Mae Cerdd Abertawe sy'n darparu gwersi cerddoriaeth, yn cyflwyno cyfle 'Profiadau Byw' y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru i gerddorion ifanc o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Smith, "Mae'r gweithdy'n ffordd wych i blant a phobl ifanc ddysgu, cwrdd â cherddorion eraill a gwneud ffrindiau newydd."

Meddai cyd-aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae'r ŵyl jazz yn ffordd wych o brofi'r gerddoriaeth jazz orau, gyda'i holl arddulliau amrywiol."

Cynhelir yr ŵyl o 15 i 19 Mehefin. Mae'r gweithdy'n addas i ddisgyblion safon Gradd 5. Rhaid cofrestru - www.joiobaeabertawe.com

Llun: The Coalminers - a fydd yn chwarae yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe.

 

Close Dewis iaith