Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerddorion ifanc yn cael cyfle i roi cynnig ar jazz

Mae cerddorion ifanc o ganolbarth a de-orllewin Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdy jazz am ddim gyda Pete Long a Thriawd Eddie Gripper.

Eddie Gripper

Eddie Gripper

Bydd y gweithdy a gefnogir gan Gerdd Abertawe yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 15 Mehefin am 1.30pm yn Ystafell y Cefnfor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac mae'n agored i bobl ifanc sy'n dysgu cerddoriaeth ar radd 5 neu uwch.

Mae'r gweithdy hwn sy'n rhan annatod o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu am yr offerynnau gwahanol a ddefnyddir mewn cerddoriaeth jazz, sut i chwarae'n fyrfyfyr a chwarae mewn ensemble.

Bydd Pete Long a Thriawd Eddie Gripper yn arwain y gweithdy. Mae Pete Long yn hen law ar addysg jazz a chanddo dros 15 mlynedd o brofiad, gan gynnwys cyfnod yn Ronnie Scott's, lle lluniodd y maes llafur ar gyfer eu rhaglen allgymorth 'Big Band in a Day'. Mae Eddie Gripper yn addysgwr profiadol y mae ei ymarfer hyfforddiant yn addas i'r rheini sy'n astudio Gradd 5 neu uwch. Mae e' hefyd yn gyfansoddwr ac yn un o gerddorion jazz mwyaf cyffrous y DU.

Mae Cerdd Abertawe, un o wasanaethau Cyngor Abertawe sy'n darparu gwersi cerddoriaeth i ddisgyblion ar draws y ddinas, yn falch o allu cyflwyno'r cyfle 'profiadau byw' hwn gan Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru i offerynwyr ifanc o Abertawe a siroedd cyfagos Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Powys, a thu hwnt.

Meddai Pennaeth Cerdd Abertawe, Karin Jenkins, "Mae'n wych gallu cydweithio gyda threfnwyr Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni, gan roi'r cyfle i ddisgyblion o bob rhan o ganolbarth a de-orllewin Cymru greu cerddoriaeth gyda cherddorion jazz profiadol fel Pete Long, Eddie Gripper a'i driawd.

"Mae'r gweithdy jazz yn ffordd wych i blant a phobl ifanc ddysgu am y gwahanol offerynnau a ddefnyddir mewn cerddoriaeth jazz, sut i chwarae'n fyrfyfyr a chwarae mewn band. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â cherddorion jazz eraill a gwneud ffrindiau newydd."

Mae'r gweithdy jazz yn addas i ddisgyblion safon Gradd 5, mae e' am ddim ond rhaid cofrestru ar ei gyfer. I gofrestru, ewch i wefan yr ŵyl yn joiobaeabertawe.com.

Cynhelir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe o ddydd Iau 13 i ddydd Llun 17 Mehefin ac mae'n cynnwys detholiad o gerddorion jazz rhyngwladol yn perfformio cyfres o chwe chyngerdd, ochr yn ochr â rhaglen o ddigwyddiadau ymylol gyda thros 30 o berfformiadau am ddim mewn bariau caffi, clybiau a thafarndai. Mae'r ŵyl yn un o nifer o ddigwyddiadau sydd i'w cynnal yn Abertawe yr haf hwn. I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau, ewch i joiobaeabertawe.com