Toglo gwelededd dewislen symudol

Meithrinfa ddwyieithog yn helpu i hybu'r Gymraeg

Meithrinfa ddydd ddwyieithog sydd hefyd yn gartref i leoliad Dechrau'n Deg yw'r gyntaf yn Abertawe i ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith i hybu'r Gymraeg.

Joio Nursery/FlyingStart

Joio Nursery/FlyingStart

Agorodd meithrinfa ddydd Joio yn Uplands lai na dwy flynedd yn ôl ond mae eisoes wedi cwblhau addewidion efydd ac arian y Gwobrau Addewid Cymraeg drwy Clybiau Plant Cymru.

Mae hefyd wedi'i harolygu'n ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru a chafodd ei graddio'n rhagorol ym mhob un o'r pedwar categori.

Meddai Rhiannon Faulkner, sylfaenydd a rheolwr Meithrinfa Ddydd Joio, "Mae fy mhlant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac er bod digon o ysgolion Cymraeg i ddewis ohonynt yn Abertawe, wrth i mi edrych am ofal dydd ar gyfer fy mhlant fy hun, sylweddolais fod bwlch enfawr yn y farchnad.

"Rwy'n siaradwr Cymraeg rhugl felly rwy'n deall pa mor bwysig yw hybu'r Gymraeg er mwyn sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a phrofi ei diwylliant cyfoethog.

"Drwy ymrwymo i'r Addewid Cymraeg drwy Clybiau Plant Cymru, mae hyn wedi cefnogi'r tîm yn Joio i ddysgu Cymraeg drwy'r cwrs CAMAU ac wedi ein helpu i ennill cydnabyddiaeth am waith caled y tîm."

Gall teuluoedd ddysgu am opsiynau gofal plant ledled Abertawe drwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor.

Mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc hyd at 20 oed a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw. Gellir cysylltu â'r tîm drwy e-bostio fis@abertawe.gov.uk neu drwy ffonio 01792 517222.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024