Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr y cyngor Keith yn cael ei ganmol am ei ddewrder yn dilyn gwaith achub wedi'r ffrwydrad yn Nhreforys

Mae un o weithwyr y cyngor sef y person cyntaf i fynd i mewn i adfeilion tŷ i achub teulu ar ôl ffrwydrad dinistriol yn Nhreforys ddydd Llun, wedi'i ganmol am ei ddewrder.

Keith Morris who rescued family in Morriston explosion

Keith Morris who rescued family in Morriston explosion

Aeth Keith Morris drwy lwch trwchus a malurion i gyrraedd mam a oedd yn sownd yn y llanast gan ei thywys allan cyn ei helpu i gyrraedd achubwyr eraill.

Dychwelodd i'r adeilad adfeiliedig i chwilio am ei mab, a oedd mewn ystafell i fyny'r grisiau ond yn ffodus, roedd y bachgen wedi'i achub eisoes ac yn ddiogel diolch i eraill a oedd wedi'i gyrraedd o'r ochr.

Trodd y goruchwyliwr priffyrdd ei sylw wedyn i achub ci'r teulu ac ar ôl dod o hyd i'r anifail, agorodd y gawell trwy rym wrth i ddyn arall dynnu'r anifail allan ohoni.

Dywedodd Keith, sydd wedi gweithio mewn swyddi amrywiol yng Nghyngor Abertawe dros y 27 mlynedd diwethaf, ei fod yn gweithredu "ar awtobeilot", ond dywedodd Arweinydd y Cyngor Rob Stewart fod Mr Morris a phawb arall a fu'n rhan o'r gwaith achub ddydd Llun wedi dangos dewrder eithriadol.

Close Dewis iaith