Toglo gwelededd dewislen symudol

Lluniau'n dangos sut olwg fydd ar ddatblygiad wedi'i gwblhau

Wrth i ddyddiad cwblhau'r datblygiad agosáu, dyma rai lluniau sy'n dangos sut bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn edrych pan fydd wedi'i gwblhau.

May CGI Kingsway 3

May CGI Kingsway 3

Mae'r lluniau cysyniadol yn dangos ardal allanol y datblygiad wedi'i gwblhau, yn ogystal â nodweddion fel derbynfa'r adeilad, y teras ar y to a'r mannau gwaith.

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, a fydd yn darparu lle ar gyfer rhyw 600 o swyddi, yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

Mae Bouygues UK, sy'n arwain ar adeiladu'r datblygiad, yn rhagweld y caiff ei gwblhau cyn bo hir, a bydd y gwaith dodrefnu mewnol yn dilyn yn y misoedd sy'n dod.

Bydd y rhan fwyaf o'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys swyddfeydd, er y bydd rhai unedau manwerthu'n wynebu Ffordd y Brenin, yn ogystal â siop goffi.

Mae sawl tenant posib wedi dangos cryn ddiddordeb yn y lleoedd sydd ar gael, ac mae nifer o gynigion byw ar hyn o bryd. Mae trafodaethau cadarnhaol ynghylch cymryd lleoedd gwaith ar gyfer y rhan fwyaf o'r adeilad yn parhau.

May CGI Kingsway 1

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r lluniau hyn yn dangos ansawdd uchel y datblygiad hwn, wrth i ddyddiad cwblhau'r datblygiad agosáu, a bydd gwaith dodrefnu mewnol yn dilyn hynny.

"Rydyn ni'n gwybod o ganlyniad i astudiaethau a wnaed gennym ac o sgyrsiau â chymuned fusnes y ddinas fod angen swyddfeydd cyfoes o'r fath yn Abertawe.

"Rydym yn gweld galw da am y swyddfeydd yno ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi rhai gosodiadau maes o law.

"Ynghyd â chynlluniau eraill, mae'r datblygiad hwn yn dangos pa mor ymroddedig yr ydym i adfywio canol ein dinas er lles preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr â'r ddinas.

"Bydd y cynllun yn cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio yng nghanol y ddinas, sydd hefyd yn helpu Abertawe i ddenu manwerthwyr a gweithredwyr hamdden oherwydd bod niferoedd ymwelwyr yn ffactor allweddol iddynt."

May CGI Kingsway 2

JLL and Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

​Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am gael copi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill ai Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com

​Mae gwefan newydd ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin hefyd ar gael yn awr yn www.7172thekingsway.com/cy/

 

May CGI Kingsway 4