Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i ddechrau'r mis hwn ar ddatblygiad swyddfeydd newydd mawr yn Abertawe

Bydd gwaith adeiladu'n dechrau'n ddiweddarach y mis hwn ar ddatblygiad swyddfeydd newydd mawr ar hen safle clwb nos Oceana yn Abertawe.

71 / 72 The Kingsway

71 / 72 The Kingsway

Gan ddarparu lle ar gyfer 600 o swyddi, bydd y datblygiad sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol a fydd yn darparu cyfleoedd swyddfa a gweithio ar y cyd hyblyg ar gyfer busnesau arloesol yn y sectorau technoleg, digidol a chreadigol.

Mae dechrau'r gwaith yn dilyn llofnodi cytundeb rhwng Cyngor Abertawe - sy'n arwain ar y cynllun - â'r prif gontractwr Bouygues UK i adeiladu'r datblygiad.

Disgwylir i'r cynllun pum llawr gael ei orffen yn ystod haf 2023 a bydd yn ddi-garbon ac yn werth £32.6 miliwn i economi Abertawe unwaith y bydd wedi'i gwblhau ac yn gweithredu.

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn cynnwys cysylltedd digidol o'r radd flaenaf, teras ar y to, digonedd o wyrddni a balconïau a fydd yn edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwyddwn fod rhai busnesau wedi gorfod gadael Abertawe yn y gorffennol i ddod o hyd i'r math o swyddfeydd o ansawdd uchel y mae eu hangen arnynt, felly bydd y datblygiad newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin yn mynd i'r afael â'r duedd hon wrth ateb galw sylweddol nad yw'n cael ei ateb ar hyn o bryd. Dengys ein hymchwil fod hyn yn wir o hyd er gwaethaf y ffaith bod COVID wedi arwain at fwy o weithio gartref yn ddiweddar, a bydd y datblygiad hwn yn darparu lle hyblyg sy'n addas ar gyfer yr amgylchedd swyddfa modern.

"Rydym yn falch iawn fod ein prif gontractwr ar gyfer y cynllun hwn - Bouygues UK - bellach ar y safle wrth i ni anelu tuag at y prif waith adeiladu. Mae cyfleoedd hyfforddiant a chadwyni cyflenwi lleol hefyd yn rhan o'r prosiect hwn, a disgwylir i'r datblygiad, unwaith y bydd wedi'i orffen, arwain at ragor o ymwelwyr a gwariant ar gyfer busnesau canol ein dinas.

"Mae'r datblygiad hwn bob amser wedi bod yn rhan o'r cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Ffordd y Brenin ar ei newydd wedd. Mae llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud yno i wella'n sylweddol ar olwg a theimlad y lle i fusnesau lleol, pobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas, wrth helpu i ddenu buddsoddiad sector preifat a rhagor o swyddi."

Meddai John Boughton, Rheolwr-gyfarwyddwr Rhanbarthol Bouygues UK,

"Mae Bouygues UK yn falch iawn o lofnodi'r contract ar gyfer yr adeilad nodedig hwn yng nghanol dinas Abertawe. Mae cael y cyfle i weithio ar adeilad mor arloesol a llesol i'r amgylchedd yn rhoi llawer o foddhad i'n tîm ac rydym yn edrych ymlaen at dorri tir a dechrau ar y gwaith."

Bydd dwy lefel danddaearol hefyd yn cael eu cynnwys fel rhan o ddatblygiad 71/72 Ffordd y Brenin. Cynllunnir mynediad i'r cyhoedd, yn ogystal â chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen. Gosodwyd arwyneb dros dro yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod yno unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i orffen.

Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu.

Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru ar gyfer hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk  

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022