Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd yn mynd y tu mewn i ddatblygiad ar Ffordd y Brenin

Mae'r fideo newydd hwn yn mynd â chi y tu mewn i'r datblygiad swyddfa sy'n datblygu'n dda ar hen safle clwb nos Oceana yng nghanol dinas Abertawe.

71/72 Kingsway (May 2023)

71/72 Kingsway (May 2023)

Pan fydd yn weithredol, bydd y cynllun a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe'n darparu lle i 600 o weithwyr mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol.

Mae'r prif gontractwr Bouygues UK nawr yn parhau i weithio ar drydydd llawr yr adeilad sydd uwchben lefel y stryd, gyda'r bwriad o gwblhau'r gwaith adeiladu cyffredinol ar ddechrau 2024.

Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd llawer o bobl yn cofio'r safle hwn yn Abertawe fel clwb nos, ond mae Ffordd y Brenin yn newid i ddiwallu anghenion modern.

"Mae ei edrychiad a'i deimlad eisoes wedi gwella'n sylweddol ac mae dyfodol disglair ar y gweill ar ei gyfer diolch i nifer o brosiectau sydd naill ai wedi'u cwblhau neu sy'n mynd rhagddynt.

"Mae'r rhain yn cynnwys y datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn cael ei gyfuno â'r adeilad bioffilig gerllaw sy'n cael ei arwain gan Hacer Developments er mwyn creu swyddi, cynhyrchu mwy o fywiogrwydd yng nghanol y ddinas a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar gyfer busnesau eraill yng nghanol y ddinas.

"Mae galw parhaus am swyddfeydd hyblyg o safon o'r math hwn yn Abertawe a bydd y dulliau o farchnata'r gwagle sydd ar gael yno i denantiaid yn cael eu hybu cyn bo hir."

Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras ar y to a fydd yn wyrdd a balconïau'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n anodd peidio â sylwi ar y craeniau ar safle'r datblygiad hwn sydd bellach yn dominyddu nenlinell Abertawe. Mae'n beth da oherwydd mae'n dangos graddfa'r buddsoddiad parhaus a fydd o fudd i bobl a busnesau lleol.

"Mae gwaith adeiladu'n datblygu'n dda yn 71/72 Ffordd y Brenin gyda mwy o gynnydd yn amlwg i'w weld bob wythnos.

"Mae'n brosiect allweddol arall sy'n rhan o waith gwerth £1bn i drawsnewid Abertawe, yn dilyn cwblhau cynlluniau fel Arena Abertawe a'r parc arfordirol newydd a throsglwyddo safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa i'r brand diodydd Cymreig, Penderyn yn ddiweddar."

Yn ogystal â 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd rhwydweithio a chydweithio hyblyg, bydd cyswllt newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin hefyd yn cael ei adeiladu.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mai 2023