Toglo gwelededd dewislen symudol

Sylfeini'n cael eu gosod ar gyfer cynllun swyddfeydd newydd nodedig ar Ffordd y Brenin

Mae sylfeini'n cael eu gosod yn awr ar gyfer datblygiad swyddfa newydd sero-net a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi ar hen safle clwb nos Oceana yng nghanol dinas Abertawe.

71 / 72 The Kingsway

71 / 72 The Kingsway

Bydd y gwaith yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer dechrau'r gwaith i godi ffrâm goncrit yr adeilad yn y misoedd i ddod wrth i drawsnewidiad Ffordd y Brenin gymryd cam arall ymlaen.

Cyngor Abertawe sy'n arwain y cynllun, a Bouygues UK yw'r prif gontractwr.

Bydd y datblygiad, y disgwylir iddo gael ei orffen yn haf 2023, yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe pan fydd wedi'i gwblhau. Bydd yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a swyddfa hyblyg i fusnesau mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys teras ar y to, cysylltiad newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen, mynediad cyhoeddus a balconïau a fydd yn edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r gwaith hwn yn dangos y bydd argraff arlunydd arall yn Abertawe'n cael ei drawsnewid yn realiti cyn bo hir, gan ddilyn gwelliant pwysig arall i Ffordd y Brenin sydd wedi creu ardal wyrddach, fwy pleserus i fusnesau ac i fuddsoddi ynddi.

"Er gwaethaf COVID a'r duedd y mae wedi arwain ati o fwy o bobl yn gweithio gartref, gwyddwn fod galw mawr am le swyddfa o safon o'r math hwn yn Abertawe - amgylchedd gweithio sy'n addas ar gyfer amserau modern drwy gyfuno cyfleoedd i gydweithio a hyblygrwydd â'r math o gysylltedd digidol y mae ei angen ar fusnesau i ffynnu.

"Gwyddwn hefyd fod busnesau mewn sectorau fel digidol a thechnoleg wedi gorfod gadael Abertawe yn y gorffennol i ddod o hyd i'r lle swyddfa sydd ei angen arnynt, felly bydd y datblygiad hwn yn helpu i fynd i'r afael â hynny yn y dyfodol wrth arwain hefyd at ragor o ymwelwyr a gwariant ar gyfer ein busnesau yng nghanol y ddinas."

Cynhaliwyd digwyddiad ar-lein hefyd fis diwethaf, a roddodd gyfle i fusnesau lleol ddarganfod mwy am becynnau gwaith sy'n ffurfio rhan o'r datblygiad mewn meysydd fel teilsio, lloriau, cerrig nadd a thirlunio a gwaith asiedydd arbenigol

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ogystal â gwella canol y ddinas ymhellach a chadw talent busnes, bydd y datblygiad swyddfeydd newydd hwn hefyd yn rhoi hwb i'r economi leol drwy ddarparu manteision i fusnesau cadwyn gyflenwi yn yr ardal leol.

"Wrth i'r gwaith adeiladu gyflymu, bydd gweithwyr adeiladu ar y safle hefyd o fudd i ganol y ddinas oherwydd yr arian y byddant yn ei wario yn ein siopau, ein bwytai, ein tafarndai a'n busnesau eraill, a bydd y datblygiad hwn hefyd yn gweithredu fel catalydd am fuddsoddiad, swyddi a chyfleoedd pellach i bobl leol."

Meddai John Boughton, Cyfarwyddwr Rheoli Rhanbarthol Bouygues UK, "Rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe wrth adeiladu'r datblygiad ar Ffordd y Brenin.

"Mae'r adeilad arloesol, nodedig a chynaliadwy hwn yn cyd-fynd mor agos â'n dyheadau hinsawdd gyda'i uchelgais beiddgar i fod yn sero-net o ran ei weithrediad. Yn ogystal, mae'n rhoi'r cyfle i ni ymgysylltu â'r gymuned leol a chynnig mentrau gwerth cymdeithasol i helpu i adfywio canol dinas Abertawe.

"Rydym mor gyffrous ein bod yn gosod y sylfeini o'r hyn sy'n addo bod yn ychwanegiad hynod werthfawr at y ddinas."

Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu. Mae arwyneb dros dro wedi'i osod yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod unwaith y bydd y prif waith adeiladu wedi'i orffen.

Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru i wneud hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk