Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd yn dangos datblygiad yn y ddinas sydd bron wedi'i gwblhau

Mae datblygiad swyddfeydd mawr newydd bron â chael ei gwblhau yng nghanol dinas Abertawe, ar safle a oedd yn cynnwys sinema ac yna gyfres o glybiau nos ar un adeg, cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel yn 2016.

71/72 Kingsway (March 2024)

71/72 Kingsway (March 2024)

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys mannau cyhoeddus arloesol mewnol ac allanol gydag ardaloedd penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod.

Mae'r rhain yn cynnwys 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A, mannau gweithio hyblyg wedi'u gwasanaethu, neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau manwerthu, bwyd a diod.

Mae'r datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn, gyda Bouygues UK yn arwain ar y gwaith adeiladu. Bydd hefyd yn elwa o gysylltedd digidol arloesol.

Ar ôl i'r gwaith adeiladu ddod i ben cyn bo hir, bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg o'r radd flaenaf ar gyfer busnesau sy'n diwallu anghenion amserau modern ac yn darparu lle i hyd at 600 o swyddi mewn sectorau fel technoleg a digidol.

Pan fydd yn weithredol, bydd datblygiad newydd 71/72 Ffordd y Brenin yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae prinder swyddfeydd o safon yn Abertawe, felly bydd y datblygiad hwn yn helpu i ateb y galw, yn annog busnesau presennol i aros yma ac yn denu busnesau newydd i Abertawe.

"Mae'r gwaith adeiladu'n agos at gael ei gwblhau ac mae trafodaethau gyda nifer o denantiaid posib yn parhau.

"Mae'r datblygiad yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn edrychiad a naws Ffordd y Brenin er budd preswylwyr a busnesau lleol, gyda nifer o gynlluniau'r sector preifat hefyd wedi'u cwblhau, yn parhau neu wedi'u cynllunio yn yr ardal hefyd."

Wedi'i osod dros saith llawr, mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn bwriadu gweithredu fel datblygiad sero-net.

Wedi'i ddylunio gan Architecture 00, bydd yn cynnwys teras gwyrdd ar y to gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe, paneli solar ar ben yr adeilad a systemau adferiad gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd y nodweddion hyn sy'n llesol i'r amgylchedd a fydd yn rhan o'r datblygiad hwn yn ychwanegu at y gwaith helaeth y mae'r cyngor eisoes yn ei wneud i greu dinas wyrddach a chynaliadwy wrth i ni weithio tuag at darged o fod yn sero-net yn y dyfodol.

"Mae'r datblygiad hefyd yn ffurfio rhan o raglen fuddsoddi gyffredinol gwerth dros £1bn sy'n trawsnewid Abertawe'n un o ddinasoedd gorau'r DU i weithio, byw, astudio, mwynhau, ymweld a buddsoddi ynddi."

JLL ac Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am gael copi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill â Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com

 

Close Dewis iaith