Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinwyr Busnes yn croesawu dechrau gwaith ar swyddfeydd Ffordd y Brenin

Mae arweinwyr busnes yn Abertawe wedi croesawu'r gwaith sydd ar fin digwydd ar ddatblygiad swyddfa newydd ar Ffordd y Brenin.

71/72 Kingsway x 2

71/72 Kingsway x 2

Bydd y datblygiad ar gyfer hen safle clwb nos Oceana, a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi.

Mae Bouygues UK bellach wedi'i ymrwymo fel prif gontractwr y cyngor ar gyfer y cynllun a fydd yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio hyblyg a swyddfeydd ar gyfer busnesau'r sector technoleg, digidol a chreadigol.

Bydd y gwaith i godi'r cynllun pum llawr yn dechrau yn yr wythnosau i ddod. Bydd y datblygiad y disgwylir iddo gael ei orffen yn haf 2022 yn un di-garbon ac yn werth £32.6 miliwn i economi Abertawe pan fydd wedi'i gwblhau.

Meddai Lisa Hartley, Rheolwr Canolfan Siopa'r Cwadrant, "Dyma gynllun adfywio cyffrous arall yn Abertawe i edrych ymlaen ato wrth i'r gwaith i ailddatblygu'n dinas barhau.

"Gyda'r ffordd y mae canol dinasoedd ledled y DU yn newid, mae angen rhagor o ddatblygiadau a lleoedd swyddfa i greu'r math o wario y mae ei angen ar ein busnesau i lwyddo ac ehangu. Bydd y datblygiad yn cyfuno ag eraill i helpu i ddiwallu'r angen hwnnw gan gynorthwyo hefyd i ddenu busnesau newydd a rhagor o fuddsoddiad.

"Hefyd - fel rydym wedi'i weld gydag ardal cam un Bae Copr - bydd y gwaith adeiladu ei hun yn fuddiol i fusnesau canol y ddinas oherwydd dyna ble bydd gweithwyr adeiladu'n debygol o wario'u harian ar fwyd, diodydd, llety, siopa a gwasanaethau eraill.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe, Mae'r ffaith y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau cyn bo hir ar y datblygiad swyddfa newydd yn newyddion mwy calonogol byth i ganol dinas Abertawe, ar adeg pan fo cynifer o brosiectau'n cyfuno i sicrhau bod Abertawe mewn sefyllfa dda i adfer o effaith y pandemig.

"Bydd y datblygiad newydd hwn yn gwella Ffordd y Brenin ymhellach, yn dilyn y cynllun trawsnewid pwysig sydd eisoes yn denu buddsoddiad gan y sector preifat.

"Ymwelwyr yw'r hyn sy'n sicrhau llwyddiant unrhyw fusnes. Drwy ddarparu lle ar gyfer 600 o swyddi, bydd y datblygiad swyddfa newydd yn cefnogi canol ein dinas drwy gynhyrchu mwy o wariant yn ein siopau a'n busnesau eraill, gyda natur hyblyg a gweithio ar y cyd y datblygiad yn darparu ar gyfer sut gallai amgylcheddau swyddfa weithredu orau yn y dyfodol."

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn cynnwys cysylltedd digidol o'r radd flaenaf, teras ar y to, digonedd o wyrddni a balconïau a fydd yn edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Caiff dwy lefel danddaearol eu cynnwys hefyd fel rhan o'r datblygiad. Cynllunnir mynediad i'r cyhoedd, yn ogystal â chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen. Mae arwyneb dros dro wedi'i osod yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod unwaith y bydd y prif waith adeiladu wedi'i orffen.

Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu.

Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru i wneud hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022