Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystafell arddangos ceginau moethus newydd yn agor yn y Mwmbwls

Bydd ystafell arddangos ceginau moethus newydd yn agor yn y Mwmbwls cyn bo hir

Green's

Green's

Bydd yr ystafell arddangos ar Newton Road, sy'n cael ei rhedeg gan y busnes lleol Green's Kitchens and Furniture, yn galluogi'r busnes i arddangos ei waith coed moethus a phwrpasol.

Yn ogystal â cheginau moethus, bydd hefyd yn cynnwys offer cegin moethus a ffitiadau a gosodiadau eraill.

Green's Kitchens and Furniture yw adran gwaith coed Green's Carpentry and Building Services, sy'n arbenigo mewn adeiladau preswyl o safon.

Diolch i arian grant twf busnes gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Llywodraeth y DU, mae Green's wedi gallu prynu modelau arddangos gan Sub Zero a Wolf - cwmni offer cegin moethus o Lundain.

Yr ystafell arddangos yn y Mwmbwls - y disgwylir iddi agor dros y misoedd nesaf - fydd yr ystafell arddangos offer Sub Zero a Wolf fwyaf heblaw am eu prif siop yn Knightsbridge.

Gan ddefnyddio'r arian grant, bydd Green's hefyd yn prynu pensetiau realiti rhithwir i roi profiad rhithwir i gleientiaid pan fyddant yn dylunio cartrefi. Bydd caledwedd a meddalwedd cyfrifiadur hefyd yn cael eu prynu er mwyn helpu dylunwyr y cwmni gyda'u gwaith.

Meddai Andy Green, Cyfarwyddwr y Cwmni, "Rydym yn gyffrous i agor yr ystafell arddangos newydd yn y Mwmbwls, a fydd yn un o'r cyfleusterau gorau o'i fath yn y DU.

"O ganlyniad i'r prosiect hwn, dylai fod cynnydd sylweddol yn y galw, sy'n golygu y bydd angen i ni gyflogi mwy o staff yn yr ystafell arddangos, dylunydd arall a mwy o bobl fasnach.

"Heb yr arian grant gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ni fyddwn yn gallu ariannu'r prosiect i'r graddau sydd eu hangen er mwyn rhoi profiad o safon i gwsmeriaid, gwella gwerthiannau, tyfu fel busnes, cadw staff a chyflogi mwy o bobl."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Green's yn enghraifft wych o stori lwyddiant busnes lleol sydd ar fin cymryd y camau nesaf i dyfu, cadw staff a chyflogi mwy o staff yn y dyfodol o bosib.

"Mae'n newyddion gwych ar gyfer economi Abertawe a chyflogaeth leol, felly rydym yn falch iawn o allu helpu gyda chyllid grant.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i hybu'r economi leol a chefnogi cynifer o fusnesau â phosib yn Abertawe."

Yn ogystal â grantiau twf busnes, mae grantiau eraill y cyngor sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Llywodraeth y DU yn cynnwys grantiau lleihau carbon, grantiau cyn dechrau, grantiau datblygu gwefannau a grantiau datblygu cyflenwyr.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau

Close Dewis iaith