Toglo gwelededd dewislen symudol

Preswylwyr yn canmol effaith Cydlynwyr Ardaloedd Lleol

Dywed preswylwyr fod y tîm arobryn o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol sy'n gweithio ym mhob ardal yn Abertawe yn trawsnewid bywydau a chymunedau.

Local Area Coordinators win community safety award

Local Area Coordinators win community safety award

Dywed pobl a oedd yn teimlo'n unig, ar yr ymylon neu ar goll eu bod wedi cael hwb o'r newydd ar ôl cael cyfarfodydd a sgyrsiau gyda'u Cydlynydd Ardal Leol.

Mae un fenyw â phroblemau iechyd a symudedd difrifol wedi gwneud ffrindiau newydd ers dechrau gwirfoddoli, ar ôl peidio â gadael ei thŷ am hyd at wyth mlynedd ar ôl colli hyder.

Mae dyn a gollodd ei wraig, gan ei adael yn teimlo ar ei ben ei hun ac a oedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi wedi hynny'n meddwl na fyddai yma heddiw heb y gefnogaeth a dderbyniodd.

Mae eu straeon hwy a llawer mwy yn cael eu cynnwys mewn adroddiad newydd sy'n tynnu sylw at yr effaith a gafodd Cydlynu Ardaloedd Lleol yn Abertawe'r llynedd.

Cyfarfu neu siaradodd aelodau'r tîm â mwy na 3,000 o breswylwyr a buont yn ymwneud yn uniongyrchol â dros 1,200 ohonynt.

Adroddodd pobl am bron 3,000 o newidiadau cadarnhaol i'w bywydau gan gynnwys gwell iechyd a lles, ffrindiau a gweithgareddau newydd, mwy o gysylltiad â'u cymuned leol a mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Close Dewis iaith