Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn elwa o gydlynu ardaloedd lleol

Mae'r effaith gadarnhaol y mae cydlynwyr ardaloedd lleol wedi'i chael wrth weithio gyda miloedd o breswylwyr Abertawe wedi cael sylw mewn adroddiad newydd.

Aerial view of Swansea

Local area coordinator map

2022 oedd y flwyddyn gyntaf lle gwelwyd cydlynwyr ardaloedd lleol dynodedig yn gweithio ym mhob ardal yn y ddinas yn dilyn gwaith parhaus i ehangu'r gwasanaeth.

Dengys adroddiad effaith fod y tîm yn ystod y flwyddyn wedi gweithio'n uniongyrchol ag 1,830 o bobl, yr oedd llawer ohonynt yn wynebu heriau sylweddol wrth iddynt hefyd gael cysylltiad anffurfiol â 5,000 yn rhagor o breswylwyr.

Mae gan Abertawe dîm o 23 o gydlynwyr ardaloedd lleol a gallwch gael gwybod pwy sy'n gweithio yn eich ardal chi drwy fynd i: https:///www.abertawe.gov.uk/cydlynuardalleol

Maent yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i ddatblygu gallu a chefnogi'r rheini sy'n wynebu heriau, fel nad yw eu sefyllfa'n gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyriad y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.

Maent hefyd yn bwyntiau cyswllt hygyrch sy'n darparu gwybodaeth a chysylltiadau rhwng grwpiau, gweithgareddau a phobl.

Mae'r adroddiad effaith yn amlygu astudiaethau achos lle mae cydlynwyr ardaloedd lleol wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau unigolion.

Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "2022 oedd y flwyddyn gyntaf i bob ward gael cydlynydd ardaloedd lleol ac mae'r adroddiad yn dangos y llwyddiant y mae'r tîm yn ei gael a sut maent yn cerdded ochr yn ochr â phobl ac yn newid bywydau'n llythrennol."

Close Dewis iaith