Myfyrwyr gofal iechyd yn dysgu am gydlynu ardaloedd lleol
Mae myfyrwyr gofal iechyd sy'n astudio yn Abertawe wedi bod yn dysgu am waith y mae cydlynwyr ardaloedd lleol yn ei wneud yn y ddinas a pha mor fuddiol yw'r gwaith hwnnw i iechyd a lles preswylwyr.
Mae gan Gyngor Abertawe dîm o 23 o gydlynwyr ardaloedd lleol sy'n gweithio ar draws y ddinas.
Maent yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i ddatblygu gallu a chefnogi'r rhai sy'n wynebu heriau, fel nad yw eu sefyllfa'n gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyriad y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.
Un o'r ardaloedd cyntaf yn Abertawe i elwa o gydlynu ardaloedd lleol oedd Llwchwr, ac mae'r meddygfeydd o fewn Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol (CCLl) Llwchwr, sy'n cwmpasu Pontarddulais, Pen-clawdd, Tre-gŵyr a Gorseinon, wedi datblygu perthynas waith agos â'u cydlynwyr ardaloedd lleol dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddar, mae hyn wedi arwain at naw myfyriwr iechyd y blynyddoedd cynnar ar leoliadau prosiect gyda CCLl Llwchwr yn cysgodi'r cydlynwyr ardaloedd lleol a darganfod beth maent yn ei wneud.