Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod mawr yn LC y ddinas ar gyfer llysgenhadon chwaraeon ifanc diweddaraf y ddinas

Mae oddeutu 100 o ddisgyblion ysgol yn Abertawe wedi cael eu hyfforddi i annog eu cyd-ddisgyblion i gadw'n heini - a gwella'u hiechyd.

Young Ambassadors

Young Ambassadors

Cawsant eu mentora gan swyddogion chwaraeon ac iechyd y cyngor a bellach mae ganddynt y teitl llysgennad ifanc ar gyfer chwaraeon yn eu hysgolion.

Mae'r cynllun yn ysbrydoli pobl ifanc rhwng 9 a 14 oed. Gall y llysgenhadon ifanc gyflwyno gweithgareddau chwaraeon, gemau a sesiynau llythrennedd corfforol mewn ysgolion a chlybiau chwaraeon lleol.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae ein llysgenhadon ifanc yn cynyddu nifer y cyfleoedd gweithgaredd corfforol sydd ar gael i grwpiau fel merched, y rheini ag anableddau a'r rheini mewn ardaloedd difreintiedig. Maent yn cefnogi plant sydd â phroblemau ymddygiad neu bryder."

Mae partneriaid y cynllun yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, Chwaraeon Cymru, Freedom Leisure a Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan dîm chwaraeon ac iechyd y cyngor a gynhaliodd ddiwrnod hyfforddiant lefel efydd yn LC canol y ddinas yr wythnos hon.

Dewisodd ysgolion cynradd o bob rhan o Abertawe ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 i'w cynrychioli. Yn ôl yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol, byddant yn helpu i gyflwyno sesiynau chwaraeon a hybu cyfranogiad mewn chwaraeon ac ymddygiad cadarnhaol.

Llun: Rhai o lysgenhadon ifanc newydd ar gyfer chwaraeon Abertawe.

Close Dewis iaith