Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwm Tawe Isaf - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol

60 mlynedd yn ôl yn unig defnyddiwyd rhan o Gwm Tawe Isaf fel tir gwastraff ôl-ddiwydiannol.

Lower Swansea Valley 003

Lower Swansea Valley Skyline

Roedd cenedlaethau o ddiwydiant trwm wedi creithio'r ardal o gwmpas yr afon Tawe gyda diffeithwch diwydiannol.

Prin yr oedd pobl yn dewis mynd yno - felly roedd angen newid.

Dyna pam y gwnaeth cynghorwyr Abertawe ar y pryd ddylunio cynlluniau mawr i roi dyfodol disglair i'r ardal ac, mewn partneriaeth ag eraill, ddechreuon nhw gyflawni'r cynlluniau hyn.

Erbyn hyn, mae pobl yn byw yno mewn lleoliadau dymunol fel yr Ardal Gopr, yn gwylio'r Elyrch, y Gweilch a chyngherddau o'r radd flaenaf mewn stadiwm tra chyfoes, yn reidio ac yn cerdded drwy goetiroedd hardd, yn siopa mewn siopau fel Morrisons a B&Q - ac yn gwneud llawer o fusnes yno.

Ac mae cynghorwyr heddiw am barhau â'r stori lwyddiant anhygoel hon.

Mae'r cwmni diodydd Cymreig, Penderyn, yn paratoi i agor distyllfa a chanolfan ymwelwyr ar hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, mae rhagor o lwybrau beicio a cherdded wedi'u cynllunio ac mae pontŵn yn cael ei osod ar gyfer teithiau cwch a gweithgareddau eraill.

Mae'r datblygwr Urban Splash, sy'n enwog yn fyd-eang, yn ystyried sut orau i ddatblygu hen safle gorsaf drenau St Thomas, ac mae Cyngor Abertawe'n cynnal sgyrsiau parhaus â Skyline Enterprises, sy'n cynnig atyniad llawn adrenalin i ymwelwyr ar Fynydd Cilfái.

Mae gwelliannau eraill hefyd yn cael eu cynllunio.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae ein cynghorau lleol a'u partneriaid wedi trawsnewid Cwm Tawe Isaf, a oedd yn arfer bod yn safle nad oedd unrhyw un am fynd iddo, yn safle sy'n weithredol yn economaidd, yn wych ar gyfer bioamrywiaeth ac yn gyrchfan hamdden pwysig.

"Rydym eisiau mynd â'r safle i'r cam nesaf drwy gyflwyno atyniadau newydd ac agor coridor yr afon i fusnesau a gwaith eraill, ychwanegu rhagor o natur yno a rhagor o gyfleoedd hamdden."

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae digon o ymarferion ymgynghori cyhoeddus i ddod ar gynlluniau fel prosiect Skyline. Rydym am gadw a gwella'r gwyrddni ar fynydd Cilfái - ac ni fydd unrhyw geir cebl yn mynd dros gartrefi pobl.

"Rydym yn amddiffyn ac yn dathlu ein hanes yn ogystal â dod â gwelliannau cyffrous i bobl leol ac ymwelwyr."

Bydd sicrhau cyllid gan amrywiaeth o ffynonellau yn allweddol ar gyfer hyn, fel yn y gorffennol.

Mae swyddogion y cyngor eisoes yn gweithio ar hyn.

Mae ein lluniau'n dangos yr ardal fel tir gwastraff yn y 1960au, ei hesblygiad a sut olwg sydd arni nawr - a sut y gallai edrych yn y dyfodol agos.

Ym 1961, roedd y stori arweiniol ar dudalen blaen y South Wales Evening Post yn dechrau fel a ganlyn, "Tackling the eyesore at Landore: First practical step to restoring to use the devastated acres on the eastern approach to Swansea was announced today."

Mae camau ymarferol pellach yn cael eu cymryd i roi dyfodol mawr i'r rhan hanesyddol hon o Abertawe.

Rhowch wybod i ni beth yw'r gwelliannau gorau a gyflwynwyd ers y 1960au yn eich barn chi!

Llun Sut gallai rhan o'r atyniad Skyline arfaethedig edrych yng Nghwm Tawe Isaf. Llun:    ProsiectSkyline

 

Lower Swansea Valley 003

Tudalen flaen y South Wales Evening Post o 1961 - "Tackling the eyesore at Landore: First practical step to restoring to use the devastated acres on the eastern approach to Swansea was announced today." Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

 

Lower Swansea Valley 006

Tomenni gwastraff yng nghysgod traphont rheilffordd Cwm Tawe Isaf a Chastell Morris, 1960au. Mae pethau'n edrych yn wahanol iawn nawr. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

 

Lower Swansea Valley 009

Rhan o afon Tawe, cyn i Gwm Tawe Isaf gael ei drawsnewid er gwell. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

 

Lower Swansea Valley 010

Cipolwg ar adferiad wrth i goed newydd gael eu plannu ar safle yng Nghwm Tawe Isaf a oedd wedi'i greithio gan ddiwydiant. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

 

Lower Swansea Valley 011

Busnesau yng Nghwm Tawe Isaf heddiw. Llun: Cyngor Abertawe

 

Lower Swansea Valley 014

Harddwch naturiol hygyrch yng Nghwm Tawe Isaf heddiw. Llun: Cyngor Abertawe

 

Lower Swansea Valley 015

Cartrefi yng Nghwm Tawe Isaf heddiw. Llun: Cyngor Abertawe

 

Lower Swansea Valley 016

Stadiwm amlswyddogaethol Swansea.com yng Nghwm Tawe Isaf heddiw. Llun: Cyngor Abertawe

 

Lower Swansea Valley Penderyn

Sut gallai atyniad newydd Distyllfa Penderyn edrych ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa Abertawe.

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith