Camau newydd allweddol yn yr arfaeth i adfywio Cwm Tawe Isaf
Mae cynlluniau gwerth miliynau i adfywio rhannau allweddol o Gwm Tawe Isaf ar fin cymryd camau mawr ymlaen.
Mae Cyngor Abertawe yn gweithio ar gyfres o gynlluniau yng nghoridor afon Tawe gyda golwg ar gyflwyno ceisiadau cynllunio'n fuan.
Maent ar y trywydd iawn yn rhannol yn sgîl y ffaith bod y cyngor wedi sicrhau £20m o gynllun Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU y llynedd.
Bydd prosiect Cwm Tawe Isaf, a fydd yn canolbwyntio ar safle hen waith copr yr Hafod-Morfa yn arwain at fwy o gyfoeth a chysylltedd lleol.
Bydd yn helpu i adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe wrth genedlaethau newydd.
Os rhoddir caniatâd cynllunio, gallai'r gwelliannau sydd ar ddod gynnwys datblygiadau fel:
· Adnewyddu prif adeiledd adeilad adfeiliedig labordy'r gwaith copr
· Ailadeiladu'r ddwy hen bont gamlas a rhan o'r gamlas wrth ymyl Morfa Road
· Adnewyddu prif adeiledd adeilad melin rholio enfawr y gwaith copr
· Adnewyddu tai injans Vivian a Musgrave y gwaith copr
· Adfer tŷ injan V&S y gwaith copr gan fod yr adeilad yn ansad
· Creu dau bontŵn ar afon Tawe sy'n ategu'r cyntaf a osodwyd y llynedd
· Rhoi bywyd newydd i fwâu a thwnelu'r rheilffordd yn y Strand a'r cyffiniau
· Creu lle arddangosfa ychwanegol yn Amgueddfa Abertawe
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd y cynlluniau hyn, os sicrheir caniatâd cynllunio, yn helpu i ddod â bywyd newydd i Gwm Tawe Isaf, gan ddod â swyddi, buddsoddiad a chyfleoedd newydd i fusnesau, hamdden a diwylliant."
Mae'r cyngor yn bwriadu cwblhau'r prosiectau yn 2025 a 2026. Cafwyd caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer adeilad y labordy.
Mae'r gwaith copr eisoes yn ganolfan ar gyfer Distyllfa Penderyn - ac mae'r cwmni o Seland Newydd, Skyline Enterprises, wedi cyflwyno cais cynllunio i ddefnyddio rhan o'r hen waith copr fel rhan o atyniad hamdden newydd a fydd hefyd yn defnyddio rhan o Fynydd Cilfái.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd rhoi bywyd newydd i goridor afon Tawe yn hybu statws Abertawe fel cyrchfan treftadaeth, yn sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yn parhau i gael ei dathlu ac yn gwella'n cynnig diwylliannol er lles pawb."
Llun: Afon Tawe yn llifo heibio safleoedd yr hen waith copr.