Toglo gwelededd dewislen symudol

Pawb yn barod! Mae trên bach y bae wedi dechrau ei dymor newydd

Mae tîm ymroddedig o weithwyr rhan-amser Cyngor Abertawe wedi lansio Trên Bach Bae Abertawe ar gyfer ei dymor newydd.

Land Train Drivers

Land Train Drivers

Byddant yn cludo miloedd o deithwyr ar deithiau rhwng y Mwmbwls a Blackpill drwy gydol misoedd yr haf.

Mae'r athro wedi ymddeol, Geoff Davies a'r heddwas wedi ymddeol, Andy Maslin, yn rhan o'r tîm bach o yrwyr a gyflogir yn rhan-amser yn dymhorol gan y cyngor.

Meddai Geoff, "Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â'r bobl sy'n mynd ar y trên ac rwyf wedi dod yn ffrindiau da gyda rhai ohonyn nhw. Mae rhai yn ystyried y peth fel profiad hudolus iawn."

Meddai Andy, "Mae'r gwasanaeth yn rhoi llawer o bleser i bobl - maen nhw'n amrywio o neiniau a theidiau ar ddiwrnod mas gyda'u perthnasau ieuengaf i rieni sy'n ymweld â'u plant sy'n gweithio neu'n astudio yn Abertawe."

Agorodd Trên Bach Bae Abertawe ar 31 Mawrth.

Bydd yn rhedeg bob dydd o 10.30am i 5pm drwy gydol y Pasg a bydd yn rhedeg am wahanol gyfnodau hyd at 24 Medi, gan gynnwys bob dydd tan 5.40pm yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Mae'r gwasanaeth 72 sedd, sy'n cael ei redeg gan y cyngor, yn rhedeg ar hyd Prom Abertawe, mae'n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae'n caniatáu i gŵn sy'n ymddwyn yn dda deithio gyda'u perchnogion.

Mae'r gwasanaeth yn galw heibio 4 safle y tymor hwn - Blackpill, West Cross, Norton a'r Mwmbwls.

Mae'r llwybr yn llai eleni, gyda'r gorsaf derfynol yn y Mwmbwls yn agos at faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth. Bydd trenau'n rhedeg yn amlach.

Bydd y newid hwn yn darparu ar gyfer contractwyr sy'n gweithio ar rannau o'r prom i gryfhau ac uwchraddio morglawdd y Mwmbwls.

Amserlen Trên Bach Bae Abertawe: www.bit.ly/SwanseaBayRider23

Ymholiadau drwy e-bost: outdoorattractions@abertawe.gov.uk

Llun: Andy Maslin a Geoff Davies.