Prosiect sy'n werth miliynau o bunnoedd yn dathlu treftadaeth Abertawe
Disgwylir i gynlluniau mawr newydd roi bywyd newydd i Gwm Tawe Isaf drwy ddathlu ei hanes diwydiannol cyfoethog gymryd cam arall ymlaen.
Gofynnir i'r Cabinet yng Nghyngor Abertawe gymeradwyo derbyn grant codi'r gwastad Llywodraeth y DU sy'n werth £20 miliwn ar gyfer prosiect a fydd yn cynnwys gwaith cadwraeth pellach yng Ngwaith Copr yr Hafod a gwelliannau i'r Strand ac i Amgueddfa Abertawe.
Argymhellir hefyd bod y cyngor yn cyfrannu £8.76 miliwn o gyllid cyfatebol i'r prosiect, yr amcangyfrifir y bydd yn werth £5.7 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.
Mae uchafbwyntiau allweddol prosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn cynnwys y canlynol:
- Cadw sawl adeilad rhestredig ar safle'r gwaith copr a'u rhyddhau at ddefnydd busnes, gan gynnwys bwytai a marchnad o bosib.
- Gosod dau bontŵn ar hyd Afon Tawe, gan ddefnyddio bwâu hanesyddol Fictoraidd ar y Strand unwaith eto a chyflwyno podiau masnachu a goleuadau gwell yn nhwneli'r Strand.
- Ychwanegiad newydd at Amgueddfa Abertawe a fydd yn darparu lleoliad arddangos ac oriel ychwanegol, yn ogystal ag ardaloedd cadwraeth a storio newydd a chaffi newydd.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae ein rhaglen adfywio sy'n werth £1 biliwn yn parhau yn Abertawe, a bydd yn trawsnewid economi ein dinas ac yn creu rhagor o swyddi a chyfleoedd i bobl leol, ond rydym hefyd yn benderfynol o gadw a dathlu hanes cyfoethog Abertawe.
"Bydd prosiect Cwm Tawe Isaf yn ein helpu ymhellach i gyrraedd y nodau hynny trwy roi bywyd newydd i'r Strand a thrwy gyflwyno rhagor o welliannau ar safle'r gwaith copr ac Amgueddfa Abertawe, gan greu lleoedd newydd ac arloesol i fusnesau lleol a rhagor o gyfleusterau i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau.
"Bydd hefyd yn creu cysylltiadau gwell rhwng y Stryd Fawr, yr orsaf drenau a'r Strand gyda'r gwaith copr ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a bydd dau bontŵn afon newydd yn rhan o'r cynlluniau hefyd.
"Bydd y prosiect hwn yn dilyn yr holl waith y mae'r cyngor eisoes yn ei wneud i gadw'n treftadaeth. Mae hyn yn cynnwys trawsnewidiad parhaus Theatr y Palace ar Y Stryd Fawr a throsglwyddo rhan o safle'r gwaith copr i Penderyn ar gyfer canolfan ymwelwyr a distyllfa weithredol y disgwylir iddynt agor yn y misoedd nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn cyfuno i greu cyrchfan newydd i ymwelwyr dan arweiniad treftadaeth ar gyfer swyddi ac i'w fwynhau."
Amcangyfrifir y bydd prosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn cefnogi 106 o swyddi ac yn creu 69 swydd newydd.
Bydd gwaith dylunio'n dechrau pan fydd tîm prosiect amlddisgyblaethol wedi'i sefydlu, a disgwylir i'r prosiect cyffredinol gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026.